Oes gennych chi awr yr wythnos yn rhydd?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun sy’n byw mewn gofal preswyl?
Os ydych, byddai Book of You wrth ei fodd yn clywed gennych.
Mae Book of You yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n defnyddio pŵer adrodd straeon i ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd a hoffai fwy o wirfoddolwyr ar gyfer eu Cynllun Cyfeillion Cartref Gofal.
Mae Book of You yn chwilio am wirfoddolwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith i ymweld â chartrefi gofal ledled Gogledd Cymru am awr bob wythnos, i gyfeillio a sgwrsio â phreswylydd fel rhan o’u Prosiect Ffrindiau Cartref Gofal, a ariennir gan Loteri Cod Post y Bobl.
Darperir hyfforddiant a gwiriadau llawn, a byddwch yn derbyn credydau amser Tempo fel diolch am y gefnogaeth werthfawr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gredydau amser Tempo ar wefan Tempo.
Dywedodd gwirfoddolwr i Book of You: “Rwyf wedi gweld cefnogi’r prosiect yn hynod werth chweil ac rwyf wedi edrych ymlaen at fynd i weld y ddynes rwy’n ei gweld bob wythnos. Rwy’n credu yn wirioneddol bod y ddau ohonom wedi cael rhywbeth o dreulio amser gyda’n gilydd.”
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Book of You.
Fel arall, gallwch gysylltu â Joy drwy e-bost ar joy@bookofyou.co.uk neu dros y ffôn ar 07733270711.



