Mae Cyngor Wrecsam wedi cael ei gyhoeddi fel enillydd y categori Rhagoriaeth Weithredol yng Ngwobrau Llywodraeth Ddigidol blynyddol Granicus.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod sefydliadau a thimau sector cyhoeddus sy’n cyflawni gwelliannau mesuradwy o ran ymgysylltu â dinasyddion, darparu gwasanaethau a thryloywder.
Mae ffurflenni a llif gwaith Granicus wedi cael eu hintegreiddio â’r system Bathodyn Glas genedlaethol, sydd wedi chwyldroi’r broses o wneud cais am drwydded parcio i bobl anabl, gan leihau’r amser prosesu o 18 diwrnod gwaith i ddim ond 7.
Bydd staff nawr yn elwa o ddata glanach, y gallu i weld achosion mewn amser real a thasgau sy’n cael eu trin yn awtomataidd, tra bod cwsmeriaid yn profi gwasanaeth cyflymach, cliriach a mwy tryloyw.
Dywedodd Rob Griffiths, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Digidol Cyngor Wrecsam: “Cyn y prosiect, roedden ni’n wynebu sawl her – gan gynnwys yr amser mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau.”
“Felly, gweithiodd ein tîm Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid gyda Granicus i ddatblygu datrysiad Bathodyn Glas mewnol sy’n cyflymu’r broses yn sylweddol – gan fod o fudd i staff a chwsmeriaid.”
Mae’r ailwampio wedi dileu ôl-groniadau, lleihau nifer y cwynion, a gwella cywirdeb a chysondeb, ac mae Cyngor Wrecsam bellach wedi cael ei gydnabod fel un o’r awdurdodau mwyaf effeithlon yng Nghymru o ran Bathodynnau Glas.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol, “Mae hon yn wobr fawreddog, ac rwy’n llongyfarch ein timau ar y gwaith maen nhw wedi’i wneud i wella gwasanaethau i drigolion. Trwy gofleidio arloesedd digidol, rydym wedi gallu gwneud y broses Bathodyn Glas yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn fwy tryloyw. Yn bwysicaf oll, mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaeth hwn bob dydd.”



