Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofrestrwch i bleidleisio cyn ei bod hi’n rhy hwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cofrestrwch i bleidleisio cyn ei bod hi’n rhy hwyr
Pobl a lle

Cofrestrwch i bleidleisio cyn ei bod hi’n rhy hwyr

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 15, 2026 12:03 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
cofrestru
RHANNU

Mae gennych tan 20 Ebrill i gofrestru mewn pryd ar gyfer Etholiad y Senedd 2026. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein ar dudalen cofrestru i bleidleisio GOV.UK – dim ond pum munud y mae’n ei gymryd.

Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio cyn 7 Mai fel y gallwch bleidleisio’n bersonol ar ddiwrnod yr etholiad. Byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

Dywedodd Alwyn Jones, swyddog canlyniadau etholaethol Fflint Wrecsam: “Heb gofrestru i bleidleisio, byddwch chi’n colli eich cyfle i ddweud eich dweud yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli ac sy’n gwneud penderfyniadau am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd.”

Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru: “Mae’n bwysig bod pobl yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi cofrestru, ac efallai y bydd angen i rai wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy’n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, ac ni fydd angen prawf adnabod â llun.

“Os ydych chi wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu wedi symud yn ddiweddar ers i chi gofrestru ddiwethaf, dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae gwneud yn siŵr nawr yn helpu i sicrhau eich bod chi’n gallu pleidleisio mewn ffordd sy’n iawn i chi.”

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer yr etholiad hwn ar gael ar dudalen we Senedd Cyngor Wrecsam, yn ogystal â thrwy’r Comisiwn Etholiadol.

Cofrestrwch i bleidleisio mewn pryd ar gyfer Etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026.  

Cofrestrwch yma!

Rhannu
Erthygl flaenorol Stoke city Mynd i Wrecsam v Stoke City? Darllenwch ymlaen…
Erthygl nesaf Gwyl Geiriau Wrecsam 2026, 24 Ebrill - 1 Mai Wrexham Carnival of Words 2026, 24 April - 1 May Gŵyl Geiriau Wrecsam: Dathlu llenyddiaeth a chymuned

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English