Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 1, 2026 10:28 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
RHANNU

Yn ddiweddar, mae adran draffig Cyngor Wrecsam wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gerbydau sy’n methu â stopio ar groesfannau sebra ar draws y sir.

Atgoffir gyrwyr bod Rheol 195 o Reolau’r Ffordd Fawr yn nodi bod yn rhaid i yrrwr stopio ac ildio yr eiliad y mae cerddwr yn symud ar groesfan. 

Dylai gyrwyr edrych allan am gerddwyr sy’n aros i groesi, a bod yn barod i arafu neu stopio, gan adael iddynt groesi. 

Mae hyn er mwyn caniatáu i gerddwyr deimlo’n hyderus wrth groesi’r ffordd, yn enwedig plant, pobl oedrannus a’r rheini ag anableddau sy’n dibynnu ar groesfannau sebra yn fwy nag eraill oherwydd eu hoedran, eu gallu, a’u gallu i farnu cyflymder cerbydau sy’n dynesu. 

Gall methu â stopio ar groesfan sebra mewn rhai amgylchiadau arwain at hysbysiad cosb gyda thri phwynt cosb a dirwy o £100. 

A yw hyn, ynghyd â’r peryglon posib i ddiogelwch pobl ac efallai hyd yn oed bywydau pobl mewn rhai achosion, yn werth y risg mewn gwirionedd?

Gellir dod o hyd i ddadansoddiad llawn a disgrifiad o’r rheolau ar gyfer gyrwyr o amgylch croesfannau sebra yn Rheolau’r Ffordd Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: – “Mae diogelwch pawb ar ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol yn Wrecsam, ac rwy’n bryderus iawn am y cynnydd mewn adroddiadau am yrwyr yn methu â stopio ar groesfannau sebra yn lleol.

“Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i annog y cyhoedd i ailymgyfarwyddo â’r rhannau perthnasol o Reolau’r Ffordd Fawr ynghylch defnydd diogel o groesfannau sebra, a chymryd yr holl fesurau cywir i sicrhau rhwydwaith ffyrdd diogel i bawb yn Wrecsam.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Elevate Conference Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Erthygl nesaf Mayor's engagements - September Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Digwyddiadau
Medi 30, 2026
the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Pobl a lle

Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English