Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol ar fin digwydd a’r thema eleni yw “Mae Cyfranogiad yn Newid Popeth”.
Mae’r wythnos wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n digwydd o fewn y timau gwasanaethau cymdeithasol. Yma yn Wrecsam, byddwn yn cymryd rhan i arddangos yr hyn y mae ein tîm ThG yn ei gyflawni i’w cymuned.
Bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos i hyrwyddo’r ystod o wasanaethau sy’n helpu pobl i aros yn annibynnol, yn gysylltiedig, ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd bwysicaf iddynt.
Bydd yn cael ei gynnal Ddydd Iau 5 Tachwedd, 9.30 am tan 12.30 pm yn yr Hwb Lles yn Wrecsam, mae pobl yn cael eu hannog i alw heibio i weld beth sydd gan ein tîm i’w gynnig.
Ar agor i bawb
Mae hwn yn ddigwyddiad agored lle mae croeso i bawb o ofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o’r teulu i staff ac aelodau o’r cyhoedd.
Gall unrhyw un sy’n dymuno darganfod mwy am y cymorth a’r gwasanaethau lleol sydd ar gael ddod draw i ddarganfod mwy.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i fynychu ac nid oes angen archebu ymlaen llaw, dim ond galw heibio yn ystod yr oriau agor a chymryd rhan.
Llawer i’w ddarganfod
Mae amrywiaeth eang o bynciau i ddysgu mwy amdanynt, gan gynnwys:
• Aros yn annibynnol gartref
• Grantiau ac addasiadau
• Cymorth i ofalwyr
• Offer a thechnoleg gynorthwyol
• Adnoddau cymunedol a gwasanaethau lles
• Cymorth sydd ar gael gydol oes, o blant a theuluoedd i oedolion hŷn a phobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor
Ystod eang o arbenigwyr
Bydd yr Hwb Lles yn llawn stondinau gwybodaeth gyda staff ymroddedig a fydd yn fwy na pharod i rannu gwybodaeth gyda’r rhai sy’n ymweld â’r digwyddiad.
Yn ogystal â’n tîm, rydym wedi gweithio gyda’n sefydliadau partner i ymuno â ni i hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ein helpu ni i’w gyflawni i’r defnyddwyr gwasanaeth yn ein cymuned. Mae’r sefydliadau fydd yn bresennol yn cynnwys:
• Tai – edrych ar addasiadau a phroses Grant Cyfleusterau i’r Anabl
• NEWCIS – cymorth a gwybodaeth i ofalwyr
• Y Gwasanaeth Tân – edrych ar gymhorthion diogelwch ar gyfer risgiau tân
• Y Tîm Amhariad ar y Golwg
• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
• Tîm Dilyniant
Cydweithio
Y brif neges y mae ein tîm am ei hyrwyddo yw bod ein tîm Therapi Galwedigaethol a’n sefydliadau partner yma i’r rhai sydd angen eu help.
Maent yn barod ac yn aros i helpu pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau, y rolau a’r perthnasoedd sy’n rhoi ystyr a phwrpas i fywyd.
Gyda’i gilydd, gyda rhwydwaith cymorth cryf, byddant yn ymdrechu i gynnal safon uchel o ofal a rhwydwaith cymorth i’n defnyddwyr gwasanaeth.
Wrth siarad am y digwyddiad sydd ar y gweill, dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Iechyd a Lles “Mae gennym dîm ymroddedig yma yn Wrecsam yn barod i gefnogi’r rhai sydd angen help i fyw mor annibynnol â phosibl.
“Mae’n bwysig bod gennym ddigwyddiadau gwybodaeth fel hyn i atgoffa pobl bod ein tîm Therapi Galwedigaethol yma ac mae ganddynt gymaint o wasanaethau i’w gynnig i’r gymuned.
“Rwy’n annog pawb i gymryd eiliad i ddod draw a darganfod faint sydd ar gael trwy ein gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n gyfle gwych i ddod i wybod am y gwaith sy’n mynd rhagddo.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl staff a’n sefydliadau partner am y gwaith a’r gefnogaeth barhaus. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o bobl ac maen nhw’n rhan bwysig iawn o’n cyngor”.



