Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2, 2026 9:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Occupational Therapy Week poster
RHANNU

Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol ar fin digwydd a’r thema eleni yw “Mae Cyfranogiad yn Newid Popeth”.

Cynnwys
  • Ar agor i bawb
  • Llawer i’w ddarganfod
  • Ystod eang o arbenigwyr
  • Cydweithio

Mae’r wythnos wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n digwydd o fewn y timau gwasanaethau cymdeithasol.  Yma yn Wrecsam, byddwn yn cymryd rhan i arddangos yr hyn y mae ein tîm ThG yn ei gyflawni i’w cymuned.

Bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos i hyrwyddo’r ystod o wasanaethau sy’n helpu pobl i aros yn annibynnol, yn gysylltiedig, ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd bwysicaf iddynt.

Bydd yn cael ei gynnal Ddydd Iau 5 Tachwedd, 9.30 am tan 12.30 pm yn yr Hwb Lles yn Wrecsam, mae pobl yn cael eu hannog i alw heibio i weld beth sydd gan ein tîm i’w gynnig.

Ar agor i bawb

Mae hwn yn ddigwyddiad agored lle mae croeso i bawb o ofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o’r teulu i staff ac aelodau o’r cyhoedd.

Gall unrhyw un sy’n dymuno darganfod mwy am y cymorth a’r gwasanaethau lleol sydd ar gael ddod draw i ddarganfod mwy.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i fynychu ac nid oes angen archebu ymlaen llaw, dim ond galw heibio yn ystod yr oriau agor a chymryd rhan.

Llawer i’w ddarganfod

Mae amrywiaeth eang o bynciau i ddysgu mwy amdanynt, gan gynnwys:

•            Aros yn annibynnol gartref

•            Grantiau ac addasiadau

•            Cymorth i ofalwyr

•            Offer a thechnoleg gynorthwyol

•            Adnoddau cymunedol a gwasanaethau lles

•            Cymorth sydd ar gael gydol oes, o blant a theuluoedd i oedolion hŷn a phobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor

Ystod eang o arbenigwyr

Bydd yr Hwb Lles yn llawn stondinau gwybodaeth gyda staff ymroddedig a fydd yn fwy na pharod i rannu gwybodaeth gyda’r rhai sy’n ymweld â’r digwyddiad.

Yn ogystal â’n tîm, rydym wedi gweithio gyda’n sefydliadau partner i ymuno â ni i hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ein helpu ni i’w gyflawni i’r defnyddwyr gwasanaeth yn ein cymuned. Mae’r sefydliadau fydd yn bresennol yn cynnwys:

•            Tai – edrych ar addasiadau a phroses Grant Cyfleusterau i’r Anabl

•            NEWCIS – cymorth a gwybodaeth i ofalwyr

•            Y Tîm Amhariad ar y Golwg

•            Tîm Dilyniant

Cydweithio

Y brif neges y mae ein tîm am ei hyrwyddo yw bod ein tîm Therapi Galwedigaethol a’n sefydliadau partner yma i’r rhai sydd angen eu help.

Maent yn barod ac yn aros i helpu pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau, y rolau a’r perthnasoedd sy’n rhoi ystyr a phwrpas i fywyd.

Gyda’i gilydd, gyda rhwydwaith cymorth cryf, byddant yn ymdrechu i gynnal safon uchel o ofal a rhwydwaith cymorth i’n defnyddwyr gwasanaeth.

Wrth siarad am y digwyddiad sydd ar y gweill, dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Iechyd a Lles “Mae gennym dîm ymroddedig yma yn Wrecsam yn barod i gefnogi’r rhai sydd angen help i fyw mor annibynnol â phosibl.

“Mae’n bwysig bod gennym ddigwyddiadau gwybodaeth fel hyn i atgoffa pobl bod ein tîm Therapi Galwedigaethol yma ac mae ganddynt gymaint o wasanaethau i’w gynnig i’r gymuned.

“Rwy’n annog pawb i gymryd eiliad i ddod draw a darganfod faint sydd ar gael trwy ein gwasanaethau cymdeithasol.  Mae’n gyfle gwych i ddod i wybod am y gwaith sy’n mynd rhagddo.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl staff a’n sefydliadau partner am y gwaith a’r gefnogaeth barhaus.  Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o bobl ac maen nhw’n rhan bwysig iawn o’n cyngor”.

Information event poster
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam v oxford Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Erthygl nesaf Poppy field Wrecsam yn Cofio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English