Low Carbon Heroes

Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Teithio Llesol profiadol i arwain ein gwaith yn y maes pwysig hwn.

Bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau statudol ac anstatudol sy’n gysylltiedig â Theithio Llesol ac i wneud cyfraniad sylweddol i gludiant yn Wrecsam trwy wella’r rhwydwaith a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o deithio.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am bob agwedd ar gael a rheoli’r arian grant, cyfathrebu, casglu data, dadansoddi, paratoi, datblygu ac ymgynghori sy’n gysylltiedig â chyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf Teithio Llesol.

Bydd y deiliad swydd yn gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid CBSW i ddatblygu cynlluniau teithio llesol sy’n cefnogi blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor a’i bartneriaid.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol i ddylunio a chyflawni prosiectau cludiant, amgylchedd, peirianneg neu rai perthnasol, a bod yn frwdfrydig ynghylch gwella teithio llesol yn Wrecsam.

I gael rhagor o fanylion neu i ddarganfod sut i ymgeisio, defnyddiwch y ddolen hon.

Yr ystod cyflog yw £30,451 – £32,910 a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Mai 2021

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF