Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud newidiadau i’r flwyddyn ysgol yng Nghymru er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i’r gweithlu addysg, dysgwyr, a’u teuluoedd, ac maent eisiau gwybod beth yw eich barn am eu cynlluniau.
Gall y newidiadau olygu gwyliau bythefnos yn yr hydref, i wella lles staff a rhoi i bawb adfywio, gwyliau pum wythnos dros yr haf i ganiatáu am wyliau hydref hirach a lleihau colled dysgu yn ystod yr haf, a gwyliau yng nghanol tymor y gwanwyn yn hytrach nag ynghlwm â’r Pasg fel y gall dysgwyr ac athrawon gael tymor mwy cytbwys.
Bydd cyfanswm yr amser a dreulir yn yr ysgol yn parhau yn 190 niwrnod a bydd y nifer o wyliau ysgol yn parhau yn 13 wythnos.
Bydd unrhyw newidiadau yn dechrau o fis Medi 2025 ar y cynharaf, sy’n golygu gall fod bythefnos o wyliau yn yr hydref am y tro cyntaf yn 2025 a gall fod pum wythnos o wyliau dros yr haf am y tro cyntaf yn 2026.
Rhannwch eich sylwadau trwy ymweld â Strwythur y flwyddyn ysgol.
Gallwch hefyd ebostio ExploringUseOfSchoolTime@gov.wales
Mae’r ymgynghoriad yn cau ar Chwefror 12, 2024.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.