Mis ddiwethaf, dathlodd Wrecsam Wythnos Llysgennad Cymru gyda digwyddiad lle bu Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore, yn cyflwyno tystysgrifau i’r Llysgenhadon Aur.
Mae Wythnos Llysgennad Cymru (18-22 Tachwedd) yn tynnu sylw at gynllun Llysgenhadon Cymru a’r amrywiaeth o bobl sydd wedi elwa o fod yn Llysgennad.
Mae cynllun Wrecsam, a lansiwyd 12 mis yn ôl, yn gwrs dysgu ar-lein am ddim, sydd â 10 modiwl yn amrywio o atyniadau, hanes a threftadaeth, i fwyd a diod a chwaraeon. Ar ôl cwblhau’r modiwlau, bydd Llysgenhadon yn ennill cydnabyddiaeth efydd, arian ac aur.
Mae cyfranogwyr yn cynnwys y rheini sydd yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth, neu unrhyw swydd sy’n ymwneud â’r cyhoedd, ond hefyd y rhai sydd â diddordeb yn eu hardal leol a dysgu mwy am Wrecsam. Mae yna gyrsiau eraill sydd yn ymdrin ag ardaloedd eraill o ogledd Cymru.
Dathlwyd Llysgenhadon Aur presennol Wrecsam mewn digwyddiad yn Xplore! lle bu Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore, yn cyflwyno’u tystysgrifau iddynt.
Bu’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi, Busnes a Thwristiaeth Cyngor Wrecsam, yn y digwyddiad yn Xplore!
Meddai: “Hoffwn ddiolch i’r swyddogion a fu’n rhan o Gynllun Llysgenhadon Wrecsam am eu gwaith caled i sicrhau ei fod yn gymaint o lwyddiant.
“Hefyd, diolch yn fawr i’r Llysgenhadon hynny sydd wedi rhoi o’u hamser i gwblhau’r cynllun at lefel Aur – gobeithio eu bod wedi ei fwynhau ac wedi dysgu pethau gwerthfawr ohono.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Wrecsam, neu sydd â diddordeb yn yr ardal, i gofrestru i gymryd rhan.”
Meddai Angharad Jarvis, Llysgennad Aur a Darlithydd Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Cambria am y cynllun Llysgennad: “Mae cynllun Llysgennad Wrecsam wedi bod yn fenter ragorol a rhyngweithiol, gan gyfoethogi gwybodaeth cyfranogwyr am yr ardal leol a meithrin ymdeimlad o falchder ac eiriolaeth.
“Nid yn unig y mae’r rhaglen yma wedi gwella fy nealltwriaeth i o Wrecsam, lle’r ydw i’n byw, yn addysgu a gweithio, ond mae hefyd wedi bod yn siwrnai ysbrydoledig ar gyfer un o fy nysgwyr, gan fy mod wedi ei annog i gwblhau’r cwrs. Mae’r profiad wedi ei rymuso i hyrwyddo atyniadau lleol, ymgysylltu gyda busnesau lleol a chyfleu hanes a threftadaeth Wrecsam yn effeithiol.
“Gan adeiladu ar y llwyddiant yma, mae cynllun Llysgennad Wrecsam bellach yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr Lefel 3 Bwyd a Diod yng Ngholeg Cambria. Mae’r estyniad yma yn cynnig cyfle amhrisiadwy i gael golwg well ar y gymuned y maen nhw’n ei gwasanaethu, gan eu paratoi i fod yn eiriolwyr ar gyfer y pethau unigryw a thapestri diwylliannol cyfoethog sydd gan Wrecsam i’w cynnig.”
Mae hefyd yn ddefnyddiol i berchnogion busnes Wrecsam, ac mae Claire Wright o To^st Café and Deli ar Stryt Siarl sydd wedi ennill gwobrau yn canmol y cynllun. Dywedodd: “Ar ôl cwblhau Cwrs Llysgennad Efydd a dysgu cymaint am ardal Wrecsam, fe benderfynais gwblhau Cwrs Llysgennad Arian ac Aur.
“Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd â busnes yn Wrecsam sydd yn croesawu ymwelwyr i’r ardal i gwblhau’r cwrs, gan fy mod i wedi gallu pasio’r hyn dwi wedi’i ddysgu i gwsmeriaid ac argymell lleoedd iddyn nhw ymweld â nhw.”
I gofrestru ac i gael mwy o wybodaeth am gynllun Llysgennad Wrecsam, ewch i wefan Llysgennad Cymru.