A ydych chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwr?

Carer

Ar hyn o bryd, mae pobl yn aros i ofalwyr gael eu recriwtio i’w helpu i fyw’n annibynnol o ddydd i ddydd mewn cymunedau ar draws Wrecsam.

Mae hynny’n golygu y gallech ymgeisio am swydd sy’n hyblyg, yn gallu gweddu gyda theulu ac amgylchiadau, ac mae’n rhoi boddhad mawr.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Yma yn Wrecsam, rydym yn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Bydd y gefnogaeth y gallech chi ei darparu helpu unigolion i fyw mor ddiogel ac annibynnol â phosibl.

Gall gofalwr wneud gwahaniaeth enfawr

Rydym yn darparu gofal uniongyrchol i unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau, o gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau o ddydd i ddydd, i fynd gydag unigolion i ganolfannau dydd neu grwpiau gweithgareddau, mynd â nhw i nofio neu i’r sinema, i ofalu am bobl ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi preswyl neu lety â chymorth.

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid contract sy’n cefnogi’r awdurdod drwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i unigolion sy’n byw yn Wrecsam.

Mae’r swyddi ar gael ar wefan Gofalwn Cymru, sydd hefyd yn cynnwys fideos, gwybodaeth a chyngor gan y rheiny sy’n gweithio yn y sector gofal iechyd ar hyn o bryd.

Mae’n werth ei weld ac rwy’n siŵr y gwelwch rhywbeth a fydd yn gweddu eich amgylchiadau personol.

Cliciwch yma i ymweld â’r wefan.

If you’d prefer to email for more further information please contact commissioning@wrexham.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r rhain yn swyddi gwerthfawr iawn ac mae llawer ohonynt ar gael ar draws y fwrdeistref sirol.  Darperir hyfforddiant llawn a byddwch o gymorth mawr i unigolion sy’n dymuno bod yn annibynnol yn eu cartrefi ei hunain.”

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]