Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
DigwyddiadauY cyngor

Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 19, 2026 10:38 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
RHANNU

Gwahoddir teuluoedd i sboncio i mewn i’r Pasg ym mis Ebrill ar gyfer dychweliad Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam, a gynhelir yn Nhŷ Pawb ddydd Iau, 2 Ebrill, rhwng 11.00AM a 2.00PM.

Mae’r llwybr, sydd am ddim, yn cynnig ffordd syml, yn llawn hwyl, i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd yn ystod gwyliau’r Pasg a gweld canol y ddinas ac ymgysylltu â busnesau lleol ar hyd y ffordd.

Ar ôl casglu taflen y llwybr o Dŷ Pawb, gall y cyfranogwyr fynd allan i ganol y ddinas i ddod o hyd i gyfres o gwningod y Pasg sy’n cael eu harddangos mewn ffenestri siopau. Yn ogystal â dod o hyd i’r cwningod, bydd angen i’r plant nodi enw pob cwningen hefyd.

Ar ôl iddyn nhw ddod o hyd iddyn nhw i gyd, gallant ddefnyddio’r enwau i gwblhau chwilair ar thema’r Pasg cyn dychwelyd i Dŷ Pawb i gasglu gwobr o ŵy Pasg.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y llwybr, bydd teuluoedd hefyd yn gallu mwynhau crefftau’r Pasg am ddim yn Nhŷ Pawb drwy gydol y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Fusnes, yr Economi a Thwristiaeth: “Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam yn ffordd hyfryd o groesawu teuluoedd i ganol y ddinas dros y Pasg tra hefyd yn annog pobl i dreulio amser yn gweld yr hyn sydd gan ein busnesau lleol i’w gynnig.

Mae’n ddigwyddiad sydd yn hwyl, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch, sy’n dod â rhywbeth ychwanegol i’r ddinas i blant a theuluoedd ei fwynhau.”

Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam yn parhau i fod yn rhan boblogaidd o galendr y Pasg, gan gynnig gweithgaredd hamddenol sydd yn addas i deuluoedd yng nghanol y ddinas, sydd yn annog pobl i weld Wrecsam mewn ffordd ddifyr a phleserus.

Gall teuluoedd gasglu taflen y llwybr o Dŷ Pawb ar y diwrnod ac ymuno ar unrhyw adeg rhwng 11am a 2pm.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i'r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Erthygl nesaf Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English