Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2026 1:11 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i'r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
RHANNU

Bydd cynllun teithio llesol newydd yn Johnstown yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at siopau a chyfleusterau’r pentref ar droed ac ar feic – gan leihau llygredd ac annog pobl i fod yn fwy egnïol.

Bydd y cynllun yn creu llwybr mwy diogel a mwy deniadol rhwng Rhodfa Melyd a’r Stryd Fawr fel rhan o’r gwaith o ailddatblygu hen safle babanod Ysgol yr Hafod.

Bydd cyrbiau isel a phalmentydd botymog newydd yn gwella mannau croesi ar gyfer pobl â phroblemau symudedd, defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â phramiau a phobl ag amhariad ar eu golwg.

Bydd ehangu’r llwybr hefyd yn creu cyswllt byr di-draffig i helpu beicwyr i gael mynediad at ffyrdd preswyl tawelach.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am leihau carbon: “Mae’r cynllun yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu strydoedd mwy diogel a mwy hygyrch fel rhan o’n rhaglen Teithio Llesol.

“Trwy greu cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng y Stryd Fawr a Rhodfa Melyd, gobeithio y byddwn ni’n annog mwy o bobl i gerdded neu olwynio ar gyfer teithiau lleol byr – gan helpu i greu cymuned iachach, fwy egnïol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gynllun ardderchog a fydd, gobeithio, yn lleihau traffig a pharcio yn yr ardal, ac yn annog mwy o bobl i gerdded ac olwynio.

“Yn ogystal â gosod cyrbiau isel a phalmentydd botymog, mae’r troedffyrdd hefyd wedi cael eu trin i ymestyn eu hoes, ac rydyn ni’n gofyn i bobl osgoi parcio arnyn nhw i helpu i ddiogelu’r wyneb newydd.”

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Teithio Llesol, a weinyddir gan Trafnidiaeth Cymru, a’r gobaith yw y bydd yn cael ei gwblhau erbyn yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Joe Jones, cynghorydd lleol ar gyfer Johnstown: “Diolch i Gyngor Wrecsam am gyflawni’r gwaith hwn, ac i Lywodraeth Cymru am ariannu’r cynllun.

“Mae annog mwy o bobl i deithio’n llesol ar gyfer teithiau lleol byr yn bwysig iawn am resymau amgylcheddol ac iechyd, a bydd ein cymuned yn elwa.”

Rhannu
Erthygl flaenorol OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
Erthygl nesaf Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma! Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English