Efallai eich bod chi’n weithiwr dan hyfforddiant yn y maes adeiladu.
Efallai eich bod chi’n gontractwr sy’n awyddus i wella sgiliau eich gweithlu mewn perthynas ag ymdrin ag adeiladau traddodiadol (cyn-1919).
Efallai eich bod chi’n fasnachwr unigol sy’n gobeithio ymestyn eich sgiliau a dilyn hyfforddiant pellach i ddatblygu sgiliau unigryw a fydd yn eich helpu i ymgymryd â rhagor o brosiectau adeiladu.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd gennych ddiddordeb mewn clywed am yr hyfforddiant sydd i ddod.
Ac yn well fyth, mae pob un ohonynt am ddim, diolch i’n rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth
Pedwar cwrs am ddim yn ystod yr haf
Gweler isod y cyrsiau a’r dyddiadau sydd wedi’u trefnu hyd yma – cliciwch ar bob un ohonynt i weld poster sy’n cynnwys rhagor o fanylion.
Cynhelir y cyrsiau ar Gampws Ffordd Bers Coleg Cambria, Wrecsam (LL13 7UH).
- Ffenestri Codi Traddodiadol: Gofal, Atgyweirio ac Uwchraddio Dydd Mercher, 26 Mehefin
- Dyfarniad Lefel 3 – Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol (Cyn 1919). Dydd Iau, 27 Mehefin a dydd Gwener, 28 Mehefin.
- Asesiad o Effaith ar Dreftadaeth a’u Dealltwriaeth: Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf neu ddydd Mercher, 14 Awst
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyrsiau uchod, cysylltwch â’n tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol dros e-bost ar david.davies@wrexham.gov.uk neu janine.began@wrexham.gov.uk.
Mae’r cyrsiau uchod am ddim diolch i gyllid gan gydweithrediad Seilwaith Canolbarth Cymru a Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam; sydd wedi’u hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a gaiff ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Cadwch lygad allan ar ein proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN