Beth am weithio yn y maes gofal? – Swydd sy’n rhoi llawer o foddhad ar gyfer y Flwyddyn Newydd!
Oeddech chi’n gwybod erbyn 2030 yng Nghymru y bydd angen 20,000 mwy o bobl i weithio yn y maes gofal? Cyflogaeth sydd yn hyblyg, yn gallu gweddu gyda theulu ac amgylchiadau, ac mae’n rhoi boddhad mawr.
Yma yn Wrecsam rydym yn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r gefnogaeth yn dod o wahanol swyddogaethau i helpu unigolion fyw mor ddiogel ac annibynnol â phosibl.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Rydym yn darparu gofal yn uniongyrchol i unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau, o gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau o ddydd i ddydd, i fynd gydag unigolion i ganolfannau dydd neu grwpiau gweithgareddau, mynd â nhw i nofio neu i’r sinema, i ofalu am bobl ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi preswyl neu lety â chymorth.
Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad
Efallai y cewch eich synnu â rhai o’r swyddi o fewn Gofal Cymdeithasol. Mae Swyddogion Hyfforddi, Therapyddion Galwedigaethol, Cogyddion a Chydlynwyr Gweithgareddau i gyd yn swyddi o fewn y sector gofal yn Wrecsam.
Mae pob swydd ym maes Gofal Cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth o heriau a gwobrau ac maent yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i chi os hoffech chi gefnogi pobl i wneud y mwyaf â’u bywyd a’u galluogi i fod yn rhan o’u cymunedau.
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid contract sydd yn cefnogi’r awdurdod drwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i unigolion sy’n byw yn Wrecsam.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu ein gofal cymdeithasol a gallwch weld os oes un wrth eich ymyl chi a beth sydd ar gael drwy ymweld â’n gwefan.
Mae gan Gofalwn Cymru wefan gwych sydd yn cynnwys fideos, gwybodaeth a chyngor yn uniongyrchol gan y rheiny sydd yn gweithio yn y diwydiant gofal yn awr. Mae’n werth ei weld a rwy’n siŵr y gwelwch rhywbeth a fydd yn gweddu eich amgylchiadau personol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN