Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A ydych yn gymwys i wneud cais am y Gronfa Cadernid Economaidd newydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > A ydych yn gymwys i wneud cais am y Gronfa Cadernid Economaidd newydd?
Busnes ac addysgY cyngor

A ydych yn gymwys i wneud cais am y Gronfa Cadernid Economaidd newydd?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 15, 2020 3:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
COVID 19 Advice for Businesses
RHANNU

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y Coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian.

Bydd yn helpu i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Meddai’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydym yn croesawu’r Gronfa hon a fydd yn helpu busnesau ac elusennau sy’n cael trafferth â llif arian yn sgil y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod arnom ac yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond ni fydd pawb yn gymwys, felly cofiwch wirio i weld a ydych yn gymwys neu beidio cyn ymgeisio.”

I fod yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwn o gymorth, bydd gofyn i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol fodloni cyfres o feini prawf gan gynnwys y canlynol:

  • Gallai microfusnesau, gan gynnwys busnesau newydd, sy’n cyflogi hyd at naw o weithwyr fod yn gymwys i gael cymorth gwerth hyd at £10,000. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Gallai busnesau yn y categori hwn fod yn gymwys i gael cymorth:
    • Os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% ers 1 Mawrth 2020
    • Os gallant ddangos y gwnaed ymdrechion i gynnal gweithgarwch y busnes
    • Os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu
    • Os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes
    • Os ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW neu’n eithrio rhag TAW
    • Os yw eu cyfeiriad gweithredol yng Nghymru ac os oes ganddynt weithwyr yng Nghymru
  • Gallai busnesau bach a chanolig sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o weithwyr fod yn gymwys i gael grantiau o hyd at £100,000:
    • Os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 60% ers 1 Mawrth 2020
    • Os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes, neu os ydynt, byddai’r swm hwnnw’n cael ei dynnu o’u dyraniad o’r gronfa hon
    • Os oes ganddynt gynllun busnes cynaliadwy i fasnachu y tu hwnt i’r pandemig Covid-19
    • Os ydynt yn cadarnhau na fydd unrhyw ddileu swyddi gorfodol yn digwydd yn y dyfodol cyn belled ag y bo’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws ar waith
    • Os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu
  • Bydd cyllid ar gael hefyd i gefnogi busnesau mawr sy’n cyflogi dros 249 o weithwyr.

Ystyrir pob cais yn unigol, fesul achos, er mwyn ystyried sut y gellir defnyddio’r cyllid yn effeithiol i gyd-fynd â ffynonellau cymorth eraill.

Gellir dod o hyd i fanylion y meini prawf cymhwyso ar: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy’n gymwys am gymorth ariannol gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor ddydd Gwener, 17 Ebrill ar wefan Busnes Cymru.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hunan-ynysu? Mae cadw mewn cysylltiad yn hawdd...os ydych chi’n gwybod sut! Hunan-ynysu? Mae cadw mewn cysylltiad yn hawdd…os ydych chi’n gwybod sut!
Erthygl nesaf Pub closed Busnesau yn ymateb yn dda i’r cyfyngiadau coronafirws

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Arall Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English