Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2025 2:39 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Food Waste Recycling Caddy
RHANNU

Mae yna ddigon o resymau pam mae ailgylchu gwastraff bwyd yn syniad da, ac yn ystod y misoedd cynhesach mae rheswm arall i ailgylchu’ch gweddillion.

Cynnwys
  • Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres
  • Archebu cadi newydd
  • Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim
  • “Mae angen i bawb chwarae eu rhan”

Cofiwch, mae cynnwys ein biniau gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos, nid yw’r un peth yn wir ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.  Ydych chi wir eisiau i’ch gwastraff bwyd fod yn eich bin am ychydig wythnosau yn gwneud i bopeth ddrewi?

Os na fyddwch chi’n ailgylchu’ch gwastraff bwyd bydd eich biniau eraill dechrau drewi, a gwaethygu y bydd y broblem (a’r arogl) wrth i’r haf fynd yn ei flaen.

Mae pobl yn dueddol o feddwl nad yw ailgylchu gwastraff bwyd yn lanwaith, ond mewn gwirionedd, mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon, ac mae’n llawer mwy glanwaith na rhoi popeth yn y bin yn ddiofal.

Mae’n llawer llai drewllyd i ailgylchu gwastraff bwyd er mwyn i ni ei gasglu gennych chi’n wythnosol.

Wedi dweud hynny, fe wyddom ni fod biniau bwyd angen ychydig mwy o sylw dros yr haf, felly dyma argymhellion i gadw eich cadi bwyd yn lân.

Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres

  • Gwagiwch y bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes. Yn syml, os ydi hi’n boeth bydd cynnwys eich cadi bwyd yn dechrau arogli yn gynt nag yn ystod y misoedd oerach. Ceisiwch ei wagio’n fwy rheolaidd pan mae hi’n gynnes. Cofiwch, caiff y cynwysyddion eu gwagio’n wythnosol.
  • Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd. Fel unrhyw fin sydd gennych, bydd eich cadi angen ychydig o ofal hefyd. Ceisiwch ei lanhau’n rheolaidd, yn arbennig pan mae’n gynnes.
  • Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y bin. Mae bicarbonad soda yn ffordd dda o niwtraleiddio arogl yn gyflym, felly os oes gennych ychydig yn y cwpwrdd yna efallai byddwch angen rhoi ychydig yng ngwaelod eich bin.
  • Glanhewch unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith. Weithiau mae diferion yn digwydd, ond mae gwneud yn siŵr eich bod yn eu glanhau yn gyflym yn helpu i atal unrhyw aroglau.
  • Cadwch gadi bwyd y gegin allan o olau uniongyrchol yr haul. Bydd lleoli eich cadi bwyd mewn lle oer, allan o olau uniongyrchol yr haul yn help mawr.
  • Cadwch y caead ar gau. Bydd cau’r caead yn cadw pryfaid i ffwrdd ac yn stopio’r arogl rhag mynd o amgylch yr ystafell, felly os nad ydych yn gwneud yn barod, ceisiwch ddechrau cau’r caead.
  • Peidiwch â gorlenwi eich bag bin bwyd. Problem gyffredin yw bod bagiau bin bwyd yn rhwygo, ac un o’r ffyrdd gorau o atal hyn rhag digwydd yw sicrhau nad ydych yn eu gorlenwi nhw.
  • Ewch â’ch cadi cegin y tu allan pan fyddwch yn trosglwyddo gwastraff. Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

Gobeithio eich bod chi rŵan yn barod i ailgylchu eich gwastraff bwyd. Angen cadi neu fagiau? Dim problem, fe allech chi gael y ddau am ddim.

Archebu cadi newydd

Rydym ni’n cynnig cadi cegin a biniau ymyl ffordd newydd, felly peidiwch â phoeni – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.  Byddwn yn danfon eich cadi newydd atoch cyn gynted ag y gallwn, ond weithiau rydym ni’n cael nifer fawr iawn o’r ceisiadau yma allai olygu bod yn rhaid i chi aros am eich un chi. Os nad ydi’ch cadi’n cyrraedd yn gyflym, ceisiwch fod yn amyneddgar wrth i ni weithio ein ffordd drwy’r rhestr o archebion.

Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim

I gael bagiau newydd ar gyfer eich cadi bwyd, gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Caddy food waste recycling liner

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleustra, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

“Mae angen i bawb chwarae eu rhan”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n ceisio ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu gwastraff bwyd trwy gynnig cadi bwyd am ddim a bagiau am ddim i’w rhoi ynddyn nhw, gan ddarparu popeth sydd ei angen arnynt i’w ailgylchu wrth y palmant. Er ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn ailgylchu gwastraff bwyd, rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna nifer o drigolion yn dewis peidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd o gwbl. Mae angen i bawb chwarae eu rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n manteisio ar ein gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol.”

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

TAGGED:ailgylchubiniaubinsfood wastegwastraffgwastraff bwydwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybodaeth Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Erthygl nesaf Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English