Ddydd Mawrth, 8 Hydref yn Llys Ynadon Wrecsam, plediodd Sarah Fell-Groom, bridiwr cŵn o Wrecsam sy’n masnachu fel Fell Groom Puppies, yn euog i fridio cŵn heb drwydded dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a gweithredu mewn modd camarweiniol drwy hysbysebu ar ei gwefan ei bod yn meddu ar drwydded lawn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Bu Ms Fell-Groom yn bridio cŵn yn ei chartref rhwng 21 Rhagfyr 2022 a 20 Rhagfyr 2023. Yn y cyfnod hwn, ganed 5 torllwyth o gŵn gan 3 gast fagu gwahanol. Un o amodau trwyddedu bridwyr yw un dorllwyth o gŵn bob blwyddyn gan ast fagu.
Yn dilyn trafodaethau, nododd Llys yr Ynadon, er bod problem yn ymwneud â lles anifeiliaid gan fod un o’r geist wedi geni 2 dorllwyth mewn llai na 12 mis, nid oeddent yn teimlo bod y drosedd yn croesi trothwy’r ddalfa. Rhoddwyd dirwy o £3000 i Ms Fell- Groom am fridio cŵn heb drwydded, a £1500 am yr ymarfer camarweiniol. Gyda chostau a gordal i ddioddefwyr ar ben hynny, roedd cyfanswm y ddirwy yn £7,148.
Lles anifeiliaid
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd “Fe ddylai lles cŵn a chŵn bach fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw brynwr neu fridiwr bob amser. Byddwn yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am fridio cŵn heb drwydded ac yn cyflwyno cosb lem i’r rhai sy’n methu â chadw at y rheolau, ac yn ymdrin â’r troseddau yn yr un modd ag unrhyw droseddau twyllodrus neu feddiangar eraill. Gobeithiwn y bydd y ddedfryd hon yn helpu i atal eraill ac yn annog pawb i ddilyn y protocolau swyddogol.”
Yn ôl Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, mae angen trwydded ar unrhyw un sy’n cadw 3 neu ragor o eist bridio (unrhyw gi benywaidd heb ei hysbaddu dros 6 mis oed) mewn mangre ac sy’n –
(a) bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(b) hysbysebu ar werth o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c) cyflenwi o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis; neu
(ch) hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.
Os nad yw’r diffiniad o fridiwr cŵn a amlinellir uchod yn berthnasol i chi, mae’n bosibl y bydd arnoch chi angen trwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 os ydych chi’n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes. Cysylltwch â’r tîm Bwyd a Ffermio yn yr Adran Gwarchod y Cyhoedd am ragor o wybodaeth public_protection_service@wrexham.gov.uk
Os ydych chi’n ystyried prynu ci bach, darllenwch y cyngor canlynol
- Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y ci bach, ei rieni, ei frodyr a’i chwiorydd.
- Ewch i weld y ci bach a’i rieni yn ei amgylchedd ei hun a cheisiwch fynd i’w weld fwy nag unwaith.
- Byddwch yn ymwybodol o esgusion sy’n golygu nad oes modd i chi weld y fam, megis ei bod wedi mynd am dro, ei bod gyda ffrind neu oherwydd bod ganddi apwyntiad â’r milfeddyg.
- Gofynnwch i gael gweld dogfennau’n ymwneud â brechiadau, microsglodynnu ac unrhyw brawf iechyd perthnasol.
- Peidiwch â chwrdd neu brynu ci bach o lefydd megis meysydd parcio neu gilfannau.
- Byddwch yn ymwybodol o rifau ffôn amrywiol yn cael eu defnyddio a ffotograffau tebyg ar hysbysiadau gwahanol.
- Gofynnwch i gael gweld eu trwydded cyngor.
- Peidiwch â chael eich brysio i wneud penderfyniad neu drosglwyddo unrhyw arian.
- Peidiwch â bod ofn dweud na.