Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal adolygiad cyn hir o’r holl breswylwyr sy’n derbyn gostyngiad person sengl o 25% ar eu treth y cyngor.
Mae tua 21,000 o breswylwyr Wrecsam yn derbyn y gostyngiad ac er bod y rhan fwyaf ohonynt yn hawlio’n gyfreithlon, efallai y bydd lleiafrif sydd naill ai wedi anghofio rhoi gwybod i’r Cyngor nad ydynt angen y gostyngiad mwyach, neu sydd wedi cyflwyno hawliad ffug yn fwriadol.
Bydd partner y Cyngor, NEC Public Services, yn anfon llythyrau at gwsmeriaid yn gofyn iddynt gadarnhau’r wybodaeth yn defnyddio’r ffurflen neu’r porth ar-lein, ac maent yn annog derbynwyr i ymateb i’r llythyr neu wynebu’r posibilrwydd o weld y gostyngiad yn dod i ben ac ôl-ddyddio hynny.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyllid a Pherfformiad: “Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i ddiogelu pwrs y wlad a chanfod twyll a hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu cydweithrediad parhaus yn ystod yr ymarfer hwn.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.