Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad
Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 — her bwerus i arweinwyr a gwleidyddion ledled y wlad ar
yr hyn sy’n rhaid digwydd nesaf i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac
amddiffyn ein dyfodol.
Rydyn ni i gyd eisiau dyfodol lle gall ein plant a’n hwyrion ffynnu. Ond heb weithredu
brys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, anghydraddoldebau cynyddol, a
thueddiadau hirdymor eraill, mae Cymru ar y trywydd tuag at dyfodol anadnabyddadwy.
Gyda 50 o argymhellion i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ar hinsawdd a natur,
iechyd a llesiant, diwylliant a’r Gymraeg, bwyd, ac economi llesiant, mae’r comisiynydd
yn eu hannog i ymrwymo i:
Osod targedau i achub ein natur
Ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwneud penderfyniadau
Creu cynllun gwydnwch bwyd cenedlaethol
Neilltuo cyllid atal
Sicrhau Cyflog Byw Gwirioneddol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru sy’n arwain y byd eisoes wedi
ysbrydoli llawer iawn o newid cadarnhaol gan gyrff cyhoeddus yn y degawd diwethaf,
ond mae angen inni fynd ymhellach a chynyddu’r enghreifftiau da drwy weithredu mwy
traws-sector a dulliau hirdymor.
I nodi 10 mlynedd ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a lansio Adroddiad
2025, mae’r Comisiynydd yn cynnal Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r
Dyfodol, gan ddod â mwy na 300 o gynrychiolwyr ynghyd o 56 o gyrff cyhoeddus i
ysgogi gweithredu ar y cyd.
Darllenwch yr adroddiad llawn ac archwiliwch yr argymhellion ar ei wefan.
Os hoffech chi gymryd ran a darganfod sut y gallwch chi newid i feddwl hirdymor:
Mynychwch sesiwn hyfforddi am ddim ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Defnyddiwch y Gwiriwr Cynnydd Ffyrdd o Weithio i weld lle mae eich sefydliad yn
sefyll
Ymunwch â Hwb Dyfodol, hyb dyfodol traws-sefydliadol
Dysgwch fwy am Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr y Comisiynydd i gael diweddariadau rheolaidd
Myfyriwch ar sut mae eich gwaith yn cyfrannu at amcanion llesiant eich sefydliad