fost

Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwr maeth?

Os ydych chi erioed wedi meddwl am y peth, yna gallai’r cwestiynau cyffredin yma am faethu eich helpu i symud i’r cam nesaf yn y broses faethu…

Oes modd i mi faethu os ydw i’n sengl / yn gweithio’n llawn amser / os oes gen i blant fy hun?

Gall unrhyw un faethu, y cwbl sydd arnoch chi angen ydi ystafell wely sbâr ac amser i gefnogi person ifanc sydd angen cartref clyd a chariad.

Pa gefnogaeth/hyfforddiant fyddai ar gael?

Gwrandewch ar y gefnogaeth a’r hyfforddiant y mae’r rhieni maeth canlynol yn ei dderbyn.

 

Pa mor hir ydi’r broses?

Bydd y broses yn cymryd tua 6 mis a bydd yn cynnwys gwiriadau, asesiadau a hyfforddiant amrywiol.

A fydda’ i’n derbyn tâl?

Byddwch yn derbyn lwfans i dalu am anghenion y plentyn. Byddwch hefyd yn cwblhau rhagor o gymwysterau a phrofiad er mwyn derbyn taliad sgiliau.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Recriwtio

01978295316

fis@wrexham.gov.uk

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

COFRESTRWCH FI RŴAN