Wedi’i gwblhau yn 2018 mae’r Angel Cyllyll, neu’r Cerflun Cenedlaethol yn Erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol, wedi teithio ar draws y wlad i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau trais a throseddau ar ein cymdeithas, yn enwedig troseddau gyda chyllyll.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dyluniodd yr artist, Alfie Bradley o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, y cerflun symudol i amlygu effaith negyddol ymddygiad treisgar a’r angen dybryd am newid cymdeithasol.
Mae’r cerflun yn 8.2 metr (27 troedfedd) o uchder, yn pwyso 3.5 tunnell ac wedi’i wneud allan o 100,000 a mwy o gyllyll ac arfau a gasglwyd gan y 43 heddlu yn y DU.
Tra bydd yn Wrecsam, bydd yr Angel Cyllyll yn sefyll ar Sgwâr y Frenhines ac yn bwynt ffocws gweledol syfrdanol ar gyfer ein gwaith sy’n cwmpasu’r ymweliad hwn, i geisio mynd i’r afael, hysbysu ac addysgu unigolion a grwpiau am effaith troseddau cyllyll a thrais ar gymunedau.
Bydd y cerflun yn cyrraedd ar 4 Hydref, a bydd seremoni agoriadol ddydd Gwener 7 Hydref. Bydd yr Angel Cyllyll yma tan ddiwedd y mis.
Mae Cyngor Wrecsam a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi trefnu bod ymweliad y cerflun yn cyd-daro ag ymgyrch fis i godi ymwybyddiaeth. Mae yna lu o sefydliadau pwysig eraill yn ymwneud â’r gwaith i wneud yn siŵr bod yr ymweliad yn llwyddiannus, a’n bod ni’n manteisio i’r eithaf ar yr ymwybyddiaeth y mae’r cerflun yn ei chodi.
Mae yna gamsyniad cyffredin bod yna lawer o droseddau cyllyll yma yn Wrecsam, ac mewn rhai achosion mae hyn yn arwain at ofn troseddau cyllyll. Ond, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gweld gostyngiad yn nifer y troseddau cyllyll ac mae troseddau o’r fath yn dal yn isel yn Wrecsam.
Ein nod yw mynd i’r afael â’r materion sy’n codi ar ôl troseddau cyllyll a thrais yn ogystal ag edrych ar gamsyniadau ac ofnau sydd gan bobl yn ein cymunedau; a gobeithio rhoi mwy o hyder a sicrwydd iddyn nhw bod Wrecsam yn lle gwych a diogel i fyw a gweithio ynddo.
Ein nod ydi arfogi’r cyhoedd yn Wrecsam gyda gwybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod am bryderon neu ddigwyddiadau troseddau cyllyll, lle fedan nhw gael rhagor o wybodaeth a sut i fynd i’r afael â phryderon eraill ynghylch troseddau cyllyll.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyng Mark Pritchard: “Hoffwn roi diolch i Clive Knowles, cadeirydd y British Ironworks yn Groesoswallt am ganiatáu i ni gwestai’r gwaith celf drawiadol a diolch iddo am ei amynedd dros oediadau i ymweliad yr angel cyllyll dros y cyfnod covid.
Hoffwn hefyd diolch i gynghorydd Terry Evans a fu’n sicrhau’r ymweliad hon tra’i fod yn ei rôl flaenorol fel prif aelod Datblygiad Economaidd ac Adfywio.
Yn olaf hoffwn roi diolch i’r gwaith caled a gwaith diflin mae’n swyddogion wedi gwneud i sicrhau ymweliad llwyddiannus a gwerthfawr yr Angel Cyllyll i Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Arweinydd Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Yn ystod mis Hydref, mi fydd yr Angel Cyllyll yn gefndir trawiadol i’r gwaith amlasiantaethol rydym yn ei wneud tu ôl i’r llenni drwy gydol y flwyddyn er mwyn diogelu Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Arweinydd Economi ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn gobeithio bydd yr angel cyllyll yma yn denu nifer o ymwelwyr i ganol y dref wrth iddynt dynnu lluniau o’r gofeb. Bydd y digwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y mis yn rhoi cyfle I’n partneriaid rannu gwybodaeth a darparu cyngor am leihau troseddu.”
Dywedodd yr Uwcharolygydd Nick Evans o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn falch o groesawu’r Angel Cyllyll i Wrecsam fel rhan o’n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau erchyll trosedd sy’n ymwneud â chyllyll.
“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddynt ar strydoedd Wrecsam. Tydy cario cyllyll neu arfau eraill ddim yn eich cadw’n ddiogel. Rydych yn peryglu eich hun drwy gario cyllell ac rydych yn fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar.
“Drwy gydweithio hefo’n partneriaid fe wnawn barhau i addysgu, gorfodi a gweithredu ar unrhyw wybodaeth er mwyn dod â’r rhai hynny sy’n gyfrifol o flaen eu gwell.”
Dywedodd Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Rwy’n falch o weld yr Angel Gyllyll yn ymweld â Wrecsam. “Mae’r gofeb yn rhoi dylanwad pwerus am y peryglon a thrychinebau y mae trosedd cyllyll yn ei greu.
“Tra bod digwyddiadau o droseddau o’r math hwn yn isel yn Wrecsam, mae’n bwysig i bawb gweithio i ddod ag achosion o’r math yma i lawr mwy.
“Fel rhan o’n genhadaeth, dwi’n ddiolchgar am y cymorth amlwg a ddangosir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrth iddynt weithio gyda’i gilydd am ddinas fwy diogel.
“Mae datblygu cymdogaethau diogel yn flaenoriaeth allweddol o fewn fy nghynllun Heddlu a Throsedd ac mae mentrau fel yr Angel Cyllyll yn esiampl o sut fedrwn ni addysgu a rhannu negeseuon i sicrhau bod ein cymunedau yn aros yn ddiogel ac yn saff i bob trigolyn.
“Dwi’n annog cymaint o bobl a sy phosib i ymweld â’r Angel Cyllyll tra’u bod yn Wrecsam.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH