Efallai bod rhai pobl yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
Bwriad cynllun y Waled Oren, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ydi helpu pobl – yn enwedig y rhai sydd ag awtistiaeth – i ymdopi â chludiant cyhoeddus.
Os ydych chi’n cael trafferth cyfathrebu beth rydych chi ei angen i staff, gall y waled helpu.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae’r waled yn cynnwys pocedi plastig er mwyn dal cardiau bach sy’n dangos geiriau a lluniau fydd yn eich helpu i ddangos i staff cludiant beth rydych chi ei angen – fel gofyn am wybodaeth am docynnau, lleoliadau ac amseroedd.
Bydd y staff yn adnabod y waled ac yn gwybod i roi’r help rydych chi ei angen.
Os hoffech chi gael waled, neu fwy o wybodaeth, ewch draw i Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd (LL11 1LG).
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “I lawer o bobl, mae’n anodd iawn cyfathrebu gyda phobl ddieithr fel staff cludiant cyhoeddus ac maen nhw’n aml yn gorfod gwneud hynny wrth edrych ar bethau pwysig fel amseroedd neu leoliadau, sy’n gallu ychwanegu at y pwysau a’r anhawster.
“Gall y Waled Oren helpu pobl i gyfleu beth maen nhw ei angen yn sydyn, a bydd staff yn gwybod sut i helpu wrth ei gweld.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU