Mae’r dyddiad cau ar gyfer anrhydeddau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn prysur agosáu, ac mae dau o’r anrhydeddau’n dathlu pen blwydd pwysig eleni a’r trydydd yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf.
Bu farw Syr TH Parry-Williams, un a fu mor allweddol ei gefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol hanner can mlynedd yn ôl ym mis Mawrth 1975. Yn ogystal â’r gamp ryfeddol o ennill y Gadair a’r Goron yn yr un Eisteddfod ddwywaith (Wrecsam, 1912 a Bangor, 1915), bu hefyd yn rhan amlwg a blaenllaw o lywodraethiant yr ŵyl, gan wasanaethu fel Llywydd y Llys.
Cyflwynwyd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976, ac fe’i henillwyd gan Tegryn Davies, Aberteifi. Mae’r Fedal yn gyfle i nodi a dathlu cyfraniad gwirioneddol mewn ardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Medal arall sy’n dathlu pen blwydd arbennig eleni yw’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2004.
Yn addas iawn, gwyddonydd amlwg o ardal Wrecsam, cartref yr Eisteddfod eleni, a anrhydeddwyd gyda’r Fedal gyntaf. Roedd Yr Athro Glyn O Phillips, pennaeth cyntaf Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru – Prifysgol Wrecsam erbyn heddiw – yn gemegydd ac academydd amlwg yn ei faes.
Eleni, cyflwynir medal newydd sbon am y tro cyntaf, Medal R Alun. Roedd R Alun Evans yn greiddiol i ddatblygiad ac esblygiad yr Eisteddfod. Bu’n aelod o Gyngor y Brifwyl am flynyddoedd lawer ac yn Llywydd y Llys o 2002-2005. Ef oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod, yn fodern ei weledigaeth ac yn arweinydd naturiol a gofalus.
Bydd y Fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i gymwynaswr bro, sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol. Dyma gyfle i enwebu unigolion sy’n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol am waith tawel a diflino yn eu cymuned.
Bydd y tair medal yn cael eu cyflwyno ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a gynhelir o 2-9 Awst.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 1 Ebrill eleni, a cheir y manylion i gyd ar wefan yr Eisteddfod.