Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 6, 2026 9:25 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Be Mighty Recycle Top Banana
RHANNU

Y gwanwyn yw’r amser ar gyfer llechen lân – ac mae hynny’n dechrau gyda bwyd. Gydag ambell newid syml, galli arbed amser, lleihau’r bil bwyd a helpu Cymru symud o 2il i 1af yn y byd am ailgylchu.

Cynnwys
  • Cost taflu bwyd da i’r bin
    • Coginio’n fwy craff: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.
      • Pot Protein Cyw Iâr (neu Ffacbys) Sitrws – Ffres, suddlon a delfrydol ar gyfer y gwanwyn
      • Tro-ffrio Cyflym Nerthol – ffres, hyblyg, ac yn barod mewn munudau
      • Llysiau Pob Gwanwynaidd – tymhorol, lliwgar a daioni am ddyddiau

Cost taflu bwyd da i’r bin

Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono. I aelwyd o bedwar, mae hynny’n golygu taflu tua £84 y mis.

Yn aml mae’n fwyd da a maethlon hefyd – ffrwythau, llysiau, tatws, ffrwythau a chig fel cyw iâr – yr union fwydydd sy’n ein helpu i gadw’n iach.

Gyda bron i 80% ohonom ni’n poeni am gost bwyd a 55% ohonom ni’n dweud fod  bwyta’n dda o bwys i ni, dydy taflu bwyd da i’r bin ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.

Coginio’n fwy craff: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.

Y gwanwyn hwn, mae’r cyfan yn ymwneud â choginio’n graff trwy wneud i fwyd fynd ymhellach, ac mae gan Cymru yn Ailgylchu fformiwla syml ar gyfer bywydau prysur.

Paratoi – Gwna ychydig o amser i goginio pryd sylfaenol syml, nerthol gyda’r hyn sydd gen ti eisoes yn yr oergell a’r cwpwrdd. Fe wnei di arbed arian, rhoi hwb llawn daioni i dy fwyd ac atal bwyd da rhag cael ei wastraffu.

Addasu – Gweini’r pryd mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos i arbed amser, bodloni bwytawyr ffyslyd a chadw pethau’n ddiddorol.

Ailgylchu – Unrhyw goesynnau llysiau, esgyrn neu ddarnau na ellir eu bwyta? Yn syth i’r cadi bwyd!

Dyma fformiwla syml sy’n dy helpu i fwyta’n dda, arbed arian a gwneud bywyd yn haws ar ddiwrnodau prysur.

Barod i ddechrau arni? Dyma dair rysáit hawdd i dy helpu i baratoi, addasu ac ailgylchu’r gwanwyn hwn.

Dos i wefan Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod mwy o ffyrdd o wneud dy brydau bwyd yn nerthol, a chei gyfle hefyd i ennill antur anhygoel yng Nghymru.

Pot Protein Cyw Iâr (neu Ffacbys) Sitrws – Ffres, suddlon a delfrydol ar gyfer y gwanwyn

Mae’r pryd llachar, llawn blas hwn yn ddelfrydol ar gyfer wythnosau prysur y gwanwyn pan fyddi eisiau rhywbeth ysgafn i’w fwyta heb dreulio oriau yn y gegin.

Paratoi: Dechreua gyda sylfaen syml o winwns a garlleg, wedi’u ffrio’n ysgafn nes eu bod yn feddal. Ychwanega gluniau neu frestiau cyw iâr (neu ffacbys fel opsiwn sy’n seiliedig ar blanhigion) a’u coginio nes eu bod yn euraidd. Cymysga sudd lemwn neu oren a’r croen wedi’i gratio, joch o stoc a pherlysiau fel teim neu oregano gyda’i gilydd, yna gadael iddo fudferwi nes bydd yn frau ac yn suddlon.

Hwb nerthol: gyda pha bynnag lysiau sydd wrth law – pupurau, courgette, sbigoglys, llysiau gwyrdd y gwanwyn neu bys – i roi hwb llawn daioni a gwneud i’r pryd fynd ymhellach.

Addasu: Gyda reis neu gwscws a llwyaid o iogwrt ar y diwrnod cyntaf, ei lwyo drwy bowlen pasta gydag ychydig o’r sudd coginio ar yr ail ddiwrnod, yna’i rwygo a’i roi mewn bara tortila neu fara pitta gyda salad am ginio cyflym.

Ailgylchu: A chofia, mae croen sitrws, croen winwns ac unrhyw dorion llysiau yn mynd yn syth i’r cadi bwyd.

Tro-ffrio Cyflym Nerthol – ffres, hyblyg, ac yn barod mewn munudau

Mae’r tro-ffrio cyflym, lliwgar hwn yn berffaith ar nosweithiau prysur pan fydd amser yn brin ond rwyt ti dal eisiau rhywbeth ffres a maethlon i de.

Paratoi: Cynhesa ychydig o olew mewn padell fawr neu wok, ffrio winwns a garlleg wedi’u sleisio, yna ychwanegu dy ddewis o brotein a’i goginio nes bydd yn euraidd. Ychwanega saws soi, joch o stoc neu ddŵr, joch o sitrws neu finegr reis, ac ychydig o sinsir neu tsili os hoffet ti.

Hwb nerthol: Trwy ychwanegu pa bynnag lysiau sydd angen eu defnyddio – brocoli, pupurau, madarch, moron, pys neu lysiau gwyrdd y gwanwyn!

Addasu: Ei weini gyda nwdls ar gyfer cinio cyflym ganol wythnos, ei lwyo dros reis neu rawn ar gyfer cinio hawdd i’w baratoi, neu ei lapio mewn cwpanau letys neu fara tortila am bryd ysgafnach.

Ailgylchu: Esgyrn, coesynnau neu groen na ellir ei fwyta? I’r cadi bwyd – nid i’r bin.

Llysiau Pob Gwanwynaidd – tymhorol, lliwgar a daioni am ddyddiau

Mae’r pryd llysiau pob hawdd hwn wir yn un o hanfodion yn y gwanwyn.

Paratoi: Torra gymysgedd o lysiau tymhorol fel tatws newydd, moron, winwns coch, pupurau a brocoli. Ei gymysgu gydag olew olewydd, garlleg a pherlysiau, yna’i rostio nes bydd y cyfan yn euraidd ac wedi coginio.

Hwb nerthol: Gyda pha bynnag lysiau sydd wrth law – courgette, madarch, tomatos neu dy ddewis o brotein – ffacbys, halloumi, cyw iâr, tofu neu selsig.

Addasu: Mwynha fe’n gynnes yn syth o’r ffwrn, neu rho’r hyn sydd dros ben mewn bara tortila neu frechdanau’r diwrnod wedyn, neu rho wy wedi’i ffrio ar ei ben am ginio cyflym yn nes ymlaen yn yr wythnos.

Ailgylchu: Ac fel bob amser, mae crwyn, coesynnau perlysiau ac unrhyw ddarnau na ellir eu bwyta yn mynd i’r cadi bwyd.

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

TAGGED:ailgylchuamgylcheddbiniaubinsenvironmentfood wastegwastraffgwastraff bwydrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Erthygl nesaf Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English