Bydd Amgueddfa Wrecsam yn cynnal arddangosfa’r hydref hwn i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma gyfle i gofio’r rhai hynny a laddwyd ar faes y gad neu a fu farw o’u hanafiadau, a hefyd y rhai a oroesodd y brwydro mewn rhyfel yr oedd pobl yn ei weld fel ‘y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel’.
Os oes gennych chi unrhyw luniau o aelodau o’r teulu a fu farw yn y rhyfel, neu a oroesodd y brwydro, a’ch bod yn fodlon rhoi benthyg yr eitemau hynny inni, ynghyd ag unrhyw fedalau a phethau cofiadwy eraill, cysylltwch â’r Ganolfan Gasgliadau yn Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297 460 neu e-bostiwch museumcollections@wrexham.gov.uk.
Byddwn yn dychwelyd pob eitem a fenthycir i’w perchnogion pan ddaw’r arddangosfa i ben, ar ôl dathlu canmlwyddiant llofnodi’r cytundebau heddwch fis Gorffennaf 1919.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION