Mae 2018 yn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Tachwedd hwn bydd ddigon o gyfle i gofio’r achos hanesyddol hon, a darganfod mwy

Dyma’r digwyddiadau y gallwch ymuno â hwy yng nghanol y dref:

Ffos Symudol ac Awyren Ddwbl y Rhyfel Byd Cyntaf

Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd, 10am – 4pm – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Dewch i ddysgu am fywyd yn y ffosydd drwy weld ffos symudol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffos yn darparu cipolwg diddorol ar fywyd Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ogystal â’r ffos, bydd awyren ddwbl –Bristol Scout Static gwreiddiol y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei harddangos. Mae nifer o ddarnau gwreiddiol yr awyren ddwbl wedi goroesi hyd heddiw, a dyma’r unig enghraifft yn y byd o awyren ddwbl sy’n dal i hedfan.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dawns De Rhyfel Byd Cyntaf

Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd, 2pm – 4pm – Neuadd Goffa, Wrecsam

Dewch draw am Ddawns De Gymreig hen ffasiwn, gyda cherddoriaeth fyw i’ch hudo yn ôl i’r gorffennol. Mae pris tocyn yn cynnwys sgon cartref ffres gyda jam a hufen, cacennau cri traddodiadol, bara brith a diod poeth.

Tocynnau ar gael am £3 o’r Ganolfan Groeso – 01978 292015

Gwasanaeth Coffa Blynyddol

Dydd Sul, 11 Tachwedd, 10:55am – Cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymraeg, Bodhyfryd

Am 10.59am bydd biwglwr yn canu’r ‘Caniad Olaf’ a byddwn yn cynnal dau funud o dawelwch. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rheiny a frwydrodd a cholli eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Ail Ryfel Byd ac anghydfodau eraill o ganlyniad.

Môr o Oleuni

Dydd Sul, 11 Tachwedd, 7pm – Eglwys San Silyn

Bydd “Môr o Oleuni” yn disgleirio ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU wrth i 1000 o ffaglau gael eu goleuo i gofio diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bydd y goleuo yn dechrau am 7pm ar frig Eglwys San Silyn.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION