Bydd pobl sy’n hoff o nofelau trosedd yn cael modd i fyw ym mis Tachwedd wrth i ŵyl lenyddol newydd lansio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mewn partneriaeth rhwng gwasanaethau llyfrgell Wrecsam, Gŵyl Geiriau Wrecsam, llyfrgelloedd Gwella a Siop Lyfrau Yr Wyddgrug, mae Gŵyl Trosedd Clwyd yn ddathliad o bopeth sy’n ymwneud â dirgelwch llofruddiaeth, trosedd a chyffro.
Yn rhedeg o ddydd Mercher, 5 Tachwedd, tan ddydd Gwener, 7 Tachwedd, mae gan yr ŵyl rywbeth i bob ditectif cadair freichiau gyda’r rhaglen sydd ar y gweill.
Y prif rai dan amheuaeth
Gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Gymraeg a Saesneg, bydd rhestr wych o awduron trosedd adnabyddus yn y lleoliadau sy’n cynnal yr ŵyl.
Yn dechrau ar 5 Tachwedd gyda’r awdur poblogaidd Vaseem Khan. Bydd yn ymweld â llyfrgelloedd Wrecsam a’r Wyddgrug y diwrnod hwnnw.
Bydd llawer o enwau poblogaidd eraill o’r genre yn dathlu gyda darllenwyr brwd gan gynnwys Simon McCleave, Alan Johnson, Sarah Ward, Meleri Wyn James, Sonia Edwards, Alis Hawkins a Sion Tecwyn.
Lleoliad y drosedd
Fel rhan o’r bartneriaeth, cynhelir y digwyddiadau rhwng y llyfrgelloedd yma yn Wrecsam a’r Wyddgrug. Cofiwch gael manylion pellach am yr holl ddigwyddiadau a phrynu tocynnau o’r wefan yma.
Isod ceir rhai uchafbwyntiau o’r ŵyl sy’n cael eu cynnal yn llyfrgell Wrecsam.
- Dydd Mercher 5 Tachwedd – 6 p.m. – Vaseem Kan
- Dydd Iau 6 Tachwedd – 5 p.m. – Siôn Tecwyn
- Dydd Gwener 7 Tachwedd – 2 p.m. – Meleri Wyn James
- Dydd Gwener 7 Tachwedd – 7 p.m. – Alan Johnson
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid: “Mae bob amser yn achos dathlu pan fydd digwyddiad newydd yn dod i’r amlwg yn Wrecsam. Mae gweld lansio gŵyl lenyddol Trosedd Clwyd yn wych. Rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiant ysgubol gan fod gennym draddodiad gwych o ddigwyddiadau llenyddol poblogaidd yma yn ein dinas. Bydd hyn yn sicr yn mynd o nerth i nerth ac edrychaf ymlaen at ei weld yn ffynnu”.


