Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ap Mind of My Own yn cael ei lansio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ap Mind of My Own yn cael ei lansio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
Y cyngor

Ap Mind of My Own yn cael ei lansio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Diweddarwyd diwethaf: Mai 29, 2020 12:55 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mind of my Own
RHANNU

Mae staff Cyngor Wrecsam sydd â chyswllt rheolaidd gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal nawr yn gallu defnyddio ap newydd – “Mind of My Own” – i’w helpu i wybod yn sydyn ac yn hawdd sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo.

Cynnwys
  • Sut mae Mind of My Own yn gweithio?
  • Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind of My Own?

Mae’r ap Mind of My Own yn hawdd ac yn hwyl i blant ei ddefnyddio a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Wrecsam y mis hwn.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae yna ddwy nodwedd – yr ap One ac Express. Mae’r ap One yn helpu pobl ifanc i fynegi eu barn mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. Gallant greu eu cyfrif eu hunain ar yr ap One, a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Mae Express yn ap hygyrch i blant iau a’r sawl ag anghenion ychwanegol a defnyddir gan staff i helpu pobl ifanc fynegi eu barn.

Sut mae Mind of My Own yn gweithio?

Unwaith mae person ifanc wedi defnyddio naill ai’r ap One neu Express i rannu eu barn, dymuniadau a theimladau, mae Mind of My Own yn creu datganiad clir o’u barn y gellir eu cynnwys gyda chofnodion achos, gan arbed amser gwerthfawr i staff. Gall person ifanc gofrestru ar gyfer ap One eu hunain a bydd staff yn eu hannog i’w ddefnyddio.

Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind of My Own?

Mae pobl ifanc sydd eisoes wedi’i ddefnyddio wedi ei gymeradwyo.

“Dwi’n teimlo bod siarad fel hyn yn llawer haws, mae’n chwyldroadol.” – Cara, 16 oed, plentyn mewn angen.

“Mae wedi gwneud imi feddwl dros fy hun. Ap da iawn ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio.” – Becky, 15 oed mewn gofal

Mae staff yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r apiau Mind of My Own, fel eu bod yn teimlo’n hyderus yn ei gyflwyno i blant a phobl ifanc.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth maent ei angen a gallwn wneud hyn drwy wrando a deall sut maent yn teimlo. Drwy ddefnyddio’r ap byddant yn gallu dangos sut maent yn teimlo gan ganiatáu i staff ymateb yn gyflym ac yn briodol. Gobeithio y bydd staff a’r sawl sy’n eu gofal yn teimlo bod yr ap yn ddefnyddiol ac o gymorth mawr i bawb dan sylw.”

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol New resource lets pupils practice their Welsh language skills from home Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 29.5.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English