Ar 2 Mai, os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, byddwch yn gallu pleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (PCC) ac am y tro cyntaf bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif yn defnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin.
Beth yw’r system y Cyntaf i’r Felin?
Pan mae etholiadau yn defnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin, bydd eich papur pleidleisio yn rhoi rhestr o enwau a phleidiau gwleidyddol – dyma yw eich ymgeiswyr.
Ar frig y papur pleidleisio, byddwch yn cael gwybod sawl enw i’w dewis.
Ar ôl cyfrif, yr ymgeisydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau fydd eich cynrychiolydd.
Dyma fideo byr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y system hon:
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyntaf i’r Felin a sut mae’r cyfrif yn cael ei wneud mewn etholiadau eraill?
Mewn etholiadau Cyffredinol, Lleol a’r Senedd, mae pleidleiswyr yn dewis pleidlais dewis cyntaf ac ail ddewis. Ar 2 Mai, byddwch yn dewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio.
I wybod mwy am etholiad y PCC a sut i bleidleisio.
Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd – 2 Mai 2024