Mae traddodiad creu cwilt a chariad tuag at dreftadaeth yn Wrecsam wedi rhoi’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfa ddiweddaraf yn Amgueddfa Wrecsam.
Gweithiodd Bom Dia Cymru, grŵp o drigolion lleol sy’n siarad Portiwgaleg a’u ffrindiau, ynghyd ag ymarferydd creadigol, Sophia Leadill, i greu cwilt lliwgar, amlddiwylliannol, aml-gyfnod sy’n dathlu treftadaeth y byd Portiwgaleg, Wrecsam a Chymru.
Bydd y cwilt Bom Dia yn cael ei arddangos yn y brif oriel yn Amgueddfa Wrecsam ar 10 Mehefin i nodi Diwrnod Portiwgal. (Caiff ei adnabod yn swyddogol ym Mhortiwgal fel Dia de Portugal, de Camões e das Comunidades Portuguesas, sy’n cyfieithu’n fras i ddiwrnod cenedlaethol Portiwgal a’r gymuned sy’n siarad Portiwgaleg.)
Mae’r cwilt yn dathlu treftadaeth sy’n diddori ac yn bwysig i’r grŵp o gerflun Crist y Gwaredwr yn Rio de Janeiro, ffabrigau hardd Angola, Ceiliog Barcelos (symbol cenedlaethol Portiwgal) trwy ymadroddion Cymraeg a phenillion Portiwgaleg i’r ddraig goch a thirnodau lleol. Roedd cynhyrchu’n cwilt yn rhan o brosiect ar draws Cymru gyfan o’r enw Ein Hamgueddfeydd Ein Lleisiau.
Dywedodd Iolanda Banu, y sefydlwr a threfnydd, “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda grŵp Bom Dia Cymru ar y prosiect hwn. Nid oedd nifer wedi bod yn yr Amgueddfa o’r blaen yn sgil y rhwystr ieithyddol, ond mae hyn wedi ein helpu ni i ddarganfod mwy am Wrecsam a’n hysbrydoli! Edrychwn ymlaen at weld yr arddangosfa Bortiwgeaidd gyntaf yn yr Amgueddfa a bod yn rhan o hanes ein dinas arbennig!”
Ychwanegodd y Cyng. Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau, “Mae’r cwilt Bom Dia yn gynrychiolaeth liwgar ac unigryw o dreftadaeth Wrecsam, Cymru a’n cymunedau Portiwgeaidd. Hoffwn ddiolch i Iolanda ac aelodau eraill o’r grŵp Bom Dia am gyfrannu’r cwilt i Amgueddfa Wrecsam lle bydd yn ymuno â chasgliadau eraill megis triptych Ysbyty Llannerch Banna i gynrychioli treftadaeth aml-genhedloedd ein sir.”
Dywedodd Dr Marian Gwyn, Rheolwr Prosiect Ein Hamgueddfeydd Ein Lleisiau, “Mae’r prosiect wedi rhagori holl ddisgwyliadau, ac mae’n dangos gwerth yr amgueddfa yn estyn allan i gymunedau er mwyn rhannu eu straeon drwy’r celfyddydau creadigol.”
Ariannwyd Ein Hamgueddfeydd Ein Lleisiau gan y Gronfa Gelf, Museum Development UK, a Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd cynhyrchiad y cwilt gan CLPW (Comunidade de Lingua Portuguesa Wrecsam) a Tŷ Pawb (CBSW), a thrwy ymweliadau i Amgueddfa Wrecsam i ddysgu mwy am dreftadaeth y ddinas.
Bydd y cwilt yn cael ei arddangos ym mhrif oriel yr amgueddfa o 10 Mehefin ac mae mynediad am ddim.
Gwybodaeth Gefndir:
Daeth aelodau o’r grŵp Bom Dia o Bortiwgal, Angola, Mozambique, Brasil, Sao Tome a Principe a Cape Verde a bellach maent yn byw yn Wrecsam. Mae’r grŵp hefyd yn cynnwys rhai gwesteion arbennig o Gymru.
Sylfaenydd a threfnydd y grŵp yw Iolanda Banu, sy’n Moçambiqiad Portiwgaleg, sydd wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Wrecsam ers blynyddoedd lawer. Mae Iolanda yn weithgar iawn yn Wrecsam yn trefnu gweithgareddau cymunedol ar ran Canolfan Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, y gymuned Portiwgaleg leol a nifer o rai eraill.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan y Gronfa Gelf, Museum Development UK a Llywodraeth Cymru, a’i nod oedd dod â chymunedau ethnig lleiafrifol ac amgueddfeydd ynghyd drwy’r celfyddydau. Wrecsam oedd un o’r pedwar o lefydd ar draws Cymru i gael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun arloesol hwn. Cafodd pob grŵp daith arbennig tu ôl i’r llenni o’u hamgueddfa leol, gan roi cyfle i staff a’r gymuned ddod i adnabod ei gilydd. Wedi’u hysbrydoli gan arweinydd creadigol, dewisodd pob grŵp eitem o’r amgueddfa er mwyn creu ymateb artistig. Cafodd y Cwilt Bom Dia ei ysbrydoli gan Gwilt Teiliwr 100 mlwydd oed Wrecsam.
Ffurfiwyd CLPW (Comunidade de Lingua Portuguesa Wrecsam) yn 2013 fel grŵp cymunedol ac yn 2016 fel Cwmni Buddiannau Cymunedol. Roeddent yn cyfarfod i ddechrau yn y Saith Seren ar gornel Stryt y Lampint a Stryt Caer. Credir bod tua 2,000 o siaradwyr Portiwgaleg yn ardal Wrecsam.
Cefnogodd Sophia Leadill, artist cymunedol a hwylusydd creadigol o Wrecsam y grŵp a’u cynorthwyo i wireddu eu syniadau ar gyfer y cwilt.
Ystyrir Luis Vaz de Camões yn un o feirdd gorau Portiwgal ac mae wedi cael ei gymharu â William Shakespeare a Dafydd ap Gwilym o ran ei bwysigrwydd i’r iaith. Bu farw ar 10 Mehefin 1580.
Mae 16 Mehefin 2023 yn nodi 650 mlynedd ers arwyddo cytundeb “cyfeillgarwch, undeb a chynghreiriau tragwyddol” rhwng Brenin Edward III o Loegr a Brenin Ferdinand I o Bortiwgal. Dyma’r cytundeb hynaf yn y byd sydd yn dal i fod mewn grym. Helpodd y gatrawd leol, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y Portiwgeaid i ddiarddel Lluoedd Ffrengig Napoleon Bonaparte yn ystod Rhyfel Iberia yn y 19eg ganrif gynnar.