Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 4, 2025 5:46 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
RHANNU

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod pedair Coedwig Fechan newydd bellach wedi’u cwblhau ym Mharc Borras, Ysgol Bro Alun, Gardd Gymunedol Rhos ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro.

Cynnwys
  • Beth yw Coedwigoedd Bychain?
  • Gweithio gyda CBC Woodswork
  • Beth fydd y Coedwigoedd Bychain yn ei gynnig i Wrecsam?
    • Mwy o fywyd gwyllt
    • Gweithredu ar newid hinsawdd
    • Cymdogaethau llai poeth
    • Gwell draenio
    • Mannau cymunedol a dysgu
  • Gwaith sy’n mynd rhagddo

Beth yw Coedwigoedd Bychain?

Mae Coedwigoedd Bychain yn goetiroedd bach tua maint cwrt tenis. Mae cymysgedd o goed a llwyni brodorol yn cael eu plannu ynddynt, yn dilyn dull a ddatblygwyd gan Earthwatch Europe.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr aelod arweiniol dros newid yn yr hinsawdd: “Er eu bod yn fach, mae Coedwigoedd Bychain yn fuddiol iawn – yn helpu i ddal carbon, lleihau’r risg o lifogydd, cefnogi bywyd gwyllt a chreu mannau dysgu a lles awyr agored newydd.”

Gweithio gyda CBC Woodswork

Crëwyd y coetiroedd bach ond pwysig hyn mewn partneriaeth â CBC Woodswork, a fu’n hanfodol i sicrhau llwyddiant y prosiect. Helpodd eu harbenigedd mewn ecoleg, rheoli prosiectau ac ymgysylltu â’r gymuned i sicrhau bod pob Coedwig Fechan yn cael ei chynllunio a’i phlannu’n ofalus, gyda chyfranogiad mawr gan ysgolion, trigolion a gwirfoddolwyr.

Dywedodd Christina Walker, Cadeirydd CBC Woodswork: “Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol sydd â ffocws ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth, ac ar ddefnyddio mannau gwyrdd er lles meddyliol a chorfforol, mae prosiect y Coedwigoedd Bychain yn cyd-fynd yn wych â’n nodau a’n hamcanion.

Roedd yn gyfle i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol yn Wrecsam, a darparu sesiynau addysgol ac adnoddau’n ymwneud â’r effaith gadarnhaol mae’r Coedwigoedd Bychain yn ei chael ar newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol a dinesig.”

Beth fydd y Coedwigoedd Bychain yn ei gynnig i Wrecsam?

Mwy o fywyd gwyllt

Mae’r plannu cyfoethog, haenog yn denu adar, pryfed ac anifeiliaid eraill, gan helpu natur i ffynnu hyd yn oed mewn ardaloedd adeiledig.

Gweithredu ar newid hinsawdd

Mae coed brodorol sy’n tyfu’n gyflym yn helpu i amsugno carbon ac yn cefnogi ymdrechion Wrecsam i leihau allyriadau.

Cymdogaethau llai poeth

Mae’r cysgod a’r lleithder a ddaw o’r coed yn helpu i ostwng tymheredd lleol, yn enwedig yn ystod tywydd poeth.

Gwell draenio

Mae Coedwigoedd Bychain yn gwella’r pridd fel y gall dŵr glaw gael ei amsugno’n haws, gan helpu i leihau dŵr wyneb a’r risg o lifogydd.

Mannau cymunedol a dysgu

Mae’r ardaloedd hyn yn creu lleoedd newydd lle gall disgyblion, preswylwyr a gwirfoddolwyr fwynhau natur, dysgu yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Bydd byrddau gwybodaeth yn cael eu hychwanegu ar bob safle cyn bo hir. Bydd y rhain yn esbonio sut mae Coedwigoedd Bychain yn gweithio, pa fywyd gwyllt y gall pobl edrych amdano, a sut gall pobl leol gymryd rhan mewn gwyddoniaeth gan ddinasyddion a gweithgareddau eraill.

Gwaith sy’n mynd rhagddo

Mae’r pedair Coedwig Fechan newydd hyn bellach yn rhan o rwydwaith cynyddol Wrecsam o fannau gwyrdd. Wrth iddynt ddatblygu, byddant yn parhau i gynnig buddion amgylcheddol a chymdeithasol go iawn.

Mae un o safleoedd y Coedwigoedd Bychain, Gardd Gymunedol Rhos, hefyd wedi ennill Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam am Wella Tirwedd neu Amgylcheddol yn ddiweddar.

Yng Nghyngor Wrecsam, byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a BCB Woodswork i fonitro eu cynnydd ac archwilio mwy o brosiectau natur ledled y fwrdeistref sirol.

Os ydych chi’n ysgol neu’n grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar ein prosiect cymunedau carbon isel, cysylltwch â ni drwy e-bostio decarbonisation@wrexham.gov.uk.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Darganfyddwch fwy am y llwybrau cerdded a beicio gwell sy’n dod i Wrecsam (sesiynau galw heibio Rhagfyr)

Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb Wrecsam yw’r Enw
Erthygl nesaf Green garden waste bin Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English