Mae arddangosfa diwrnod coffa syfrdanol a grëwyd gan ysgolion lleol, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol wedi cael ei harddangos yn Tŷ Pawb.
Mae’r arddangosfa wedi’i threfnu a’i chydlynu gan y tîm yng Nghanolfan Ymwelwyr Wrecsam ac mae’n cynnwys ‘Afon Pabïau’ 2 fetr o daldra ochr yn ochr â cherddi a gweithiau celf ar thema diwrnod y cofio.
Mae cyfranwyr i’r arddangosfa yn cynnwys:
Grŵp Paned Crefftus Eglwys yr Holl saint
Cartref Gofal Llys Ashleigh
Cartref Gofal Llys y Waun
Grŵp Ieuenctid yr Holl Saint
Ysgol Bro Alun
Ysgol Llan-Y-Pwll
Ysgol Penrhyn
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Ngymru San Pedr
Ysgol Tanyfron
Ysgol Bodhyfryd
Ysgol I.D. Hooson
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Hoffwn drosglwyddo diolch enfawr ar ran Wrecsam i’r ysgolion, cartrefi gofal a grwpiau lleol am y gwaith anhygoel y maent wedi’i wneud i greu yr arddangosfa syfrdanol o hardd a theimladwy hwn. Mae’r cyfuniad o farddoniaeth, lliw a manylder y grefft yn fendigedig ac yn goffâd teilwng iawn ar gyfer diwrnod y cofio. Byddwn yn annog pawb sy’n mynd i Tŷ Pawb dros yr wythnos neu ddwy nesaf i gymryd ychydig funudau i gael golwg agosach.
“Diolch enfawr hefyd i’r tîm yng Nghanolfan Ymwelwyr Wrecsam am ddyfeisio a chydlynu’r prosiect gwych hwn sy’n cael ei arwain gan y gymuned.”
Bydd Afon y Pabi i’w gweld yn nerbynfa Tŷ Pawb tan ddydd Llun 20 Tachwedd.