Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > 11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle

11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 25, 2026 2:41 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Voices make change
RHANNU

Ydych chi’n 11-25 oed? Rydyn ni am wybod am y materion sy’n effeithio arnoch chi.

Lleisiau’n Creu Newid yw ffordd Senedd yr Ifanc (Senedd yr Ifanc Wrecsam) o sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosib yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae tîm cyfranogiad Cyngor Wrecsam yn gofyn i bobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed drwy gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, Lleisiau’n Creu Newid.

Bydd hyn yn digwydd bob deufis, a po fwyaf o bobl ifanc sy’n cymryd rhan, y mwyaf cywir, dibynadwy a chynrychioliadol fydd y canlyniadau – sy’n golygu y gallant ganolbwyntio eu gwaith ar yr hyn sydd bwysicaf.

Y tro hwn, mae’r arolwg yn canolbwyntio ar lythrennedd, a bydd yn archwilio barn pobl ifanc ar ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd.

Pryd a ble gallaf gwblhau’r arolwg?

Mae’r arolwg yn fyw nawr hyd at 14 Mawrth, 2026.

Mae ar gael ar y dudalen arolwg Lleisiau’n Creu Newid link tree hon, lle gallwch ddod o hyd i’r ddolen i’r cwestiynau Lleisiau’n Creu Newid; atebwch y cwestiynau ac yna pwyswch cyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae gan bobl ifanc yr hawl i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau ar bob mater sy’n effeithio arnynt, ac mae’r arolygon Lleisiau’n Creu Newid hyn yn ffordd i bobl ifanc ddweud eu dweud yn annibynnol ar faterion amserol a phwysig.

“Mae rhannu eich barn â Senedd yr Ifanc yn golygu y gallant sicrhau bod eu gwaith yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i bobl ifanc.”

Os ydych am gael gwybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio Youngvoices@wrexham.gov.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Road Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Erthygl nesaf Dementia Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English