Yr arddangosfa fwyaf yng nghwrt blaen yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yw cyfres o weithiau celf gan yr artist tirlun o ogledd Cymru, Mikey Jones.
Daeth Mikey Jones i enwogrwydd gyda’i furlun ‘Wrexham Skyline’ a arddangoswyd yn hen Ganolfan Gelfyddydau Wrecsam, gan atgoffa pobl o dreftadaeth drefol y dref. Ers hynny, mae galw mawr wedi bod am ei baentiadau mewn olew o dirnodau a thirweddau ar draws gogledd Cymru ymysg preswylwyr lleol, ‘alltudion’, ymwelwyr a chasglwyr celf.
Fe gysylltodd Amgueddfa Wrecsam â Mikey Jones i holi a fyddai’n fodlon gadael i ni ailgynhyrchu rhai o’i baentiadau o dirnodau ym mwrdeistref sirol Wrecsam i’w harddangos yng nghwrt blaen yr amgueddfa ac roeddem wrth ein bodd pan gytunodd o.
Dywedodd Mikey Jones wrth yr amgueddfa “Dwi’n caru paentio golygfeydd o Wrecsam a’r dalgylch. Mae yna gymaint o harddwch a hanes diddorol, mae’n dal i deimlo nad yw wedi cael ei gyffwrdd yn iawn gan baentwyr tirwedd blaenorol. Mae’r cyfle yma a’r rhyddid i hyrwyddo yr hyn sydd gennym ni yn ein rhan ni i’r byd wedi fy nghyffroi i erioed.
Rwyf wedi bod yn paentio golygfeydd o’r ardal leol ers dros ddegawd bellach ac mae’r newid cadarnhaol yn agweddau pobl tuag at gelf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam sydd yn gysylltiedig â llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam a thwf cyffredinol yn hyder y gymuned yn wych. Mae mwy a mwy o bobl bellach eisiau celf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam i fyny ar eu waliau!
Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gydag Amgueddfa Wrecsam i greu arddangosfa gyhoeddus yn dangos fy mhaentiau o dirnodau lleol ar y byrddau allanol yn eu cwrt blaen, er mwyn dathlu ein tirnodau pensaernïol a naturiol.”
Er mai dim ond dros dro yr arhosodd JMW Turner a Louise Rayner yn Wrecsam i baentio, gall ymwelwyr werthfawrogi faint o’r ardal mae Mikey Jones wedi ei archwilio a’i baentio mewn olew dros y ddegawd ddiwethaf yn y gweithiau a ddewiswyd i’w harddangos y tu allan i Amgueddfa Wrecsam.
Gwerth ei weld yn agos
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae Mikey yn artist lleol hynod boblogaidd felly rydym yn falch iawn o allu cyflwyno detholiad o’i weithiau gorau yma yng nghanol y ddinas i bawb eu mwynhau. Mae hoffter cynnes a sylw i fanylion ym mheintiadau eiconig Mikey o dirnodau Wrecsam sy’n atseinio’n wirioneddol gyda phobl leol. Maen nhw’n werth eu gweld yn agos felly byddwn yn annog pawb i alw i mewn i gwrt blaen yr amgueddfa ar eu hymweliad nesaf â chanol y ddinas a chael golwg.”
Fe fydd yr arddangosfa ar agor tan fis Mawrth 2024.
Mae Amgueddfa Wrecsam, Caffi’r Cwrt ac Archifau bellach ar gau i’r cyhoedd fel rhan o’r prosiect i ailddatblygu’r adeilad yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ – amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru, ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu a’i gwella’n llawn.
Gall ymwelwyr fynd i’r cwrt blaen o hyd i weld yr arddangosfa.