Gweithredwyd cyfres o warantau’r wythnos hon fel rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn Wrecsam a hyd yn hyn mae 19 wedi eu harestio.
Mae Ymgyrch Lancelot wedi bod yn ymchwilio i weithgareddau gang lleol yn cyflenwi heroin a crack cocaine yn yr ardal.
Bu dros 50 o swyddogion yn gweithredu cyfres o warantau arestio ym Mharc Caia a lleoliadau eraill ar draws Wrecsam ar ddydd Llun, Medi 28. Gweithredwyd gwarantau pellach o gwmpas y dref ar Hydref 1 a heddiw (Hydref 2).
Hyd yn hyn arestiwyd 14 dyn a 5 merch. Maent wedi eu cyhuddo ac yn aros yn y ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio cyffuriau Dosbarth A.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Roberts: “Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd y datblygodd yr ymgyrch hwn yr wythnos hon. Rydym yn benderfynol o ddiddymu’r gang ac mae grŵp mawr o ddynion a merched wedi cael eu harestio a’u cyhuddo o droseddau difrifol. Mater i’r llysoedd yw hi nawr.”
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cymorth a’r wybodaeth y maent wedi rhoi i ni i weithredu ymgyrch mor fawr â hon. Gobeithio y bydd trigolion a busnesau yn gweld bod Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i daclo’r gweithgaredd troseddol hwn sy’n dod â chymaint o ddioddefaint i unigolion a chymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol y Cyngor ar ran Cymunedau, Partneriaethau, Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae’r frwydr yn erbyn cyffuriau a throseddau trefnedig yn parhau a hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am weithredu’r ymgyrch bwysig hon. Mae hefyd yn bwysig cydnabod gwaith ein hasiantaethau partner sy’n cefnogi’r gymuned leol a diolch i’r gymuned am eu dealltwriaeth.”
“Mae cyffuriau anghyfreithlon yn dod â dioddefaint i fywydau pobl ac mae ymgyrchoedd fel hyn yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi ein cymunedau – yn sicrhau bod cymdogion yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu byw eu bywydau’n mewn heddwch.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG