Mae Tŷ Pawb yn falch o gyhoeddi Lydia Meehan fel yr artist a gomisiynwyd ar gyfer Wal Pawb yn 2020.
Mae Lydia wedi’i dewis yn dilyn proses ddethol gystadleuol iawn. Bydd yn dechrau gweithio ar y prosiect ar unwaith, gyda’r gwaith celf terfynol yn cael ei ddadorchuddio ym Mai 2020 ynghyd ag arddangosfa yn yr oriel.
Mae Wal Pawb yn cynrychioli datganiad mentrus am y cydfodoli hwn, a bydd Lydia yn myfyrio ar y nifer o ddefnyddiau a defnyddwyr sydd gan yr adeilad, a’r berthynas rhyngddynt yn y gwaith terfynol.
Mae’r ddau fwrdd posteri yn nodweddion allweddol o weledigaeth Penseiri Featherstone Young ar gyfer Tŷ Pawb ac maent wedi’u gosod mewn lleoliad canolog yn yr adeilad.
Maent yn edrych dros neuadd fwyd a sgwâr marchnad aml-ddefnydd, ar wyneb allanol yr orielau.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON
Prosiect newydd cyffrous ar gyfer 2020
Mae’r prosiect y bydd Lydia yn ei ddatblygu fel rhan o’r comisiwn yn ymchwilio perthynas tenantiaid presennol Tŷ Pawb ar gyfer masnach hanesyddol ac ymarfer creadigol. Mae teithiau cerdded a gweithdai celf yn rhai o’r gweithgareddau y gall pobl gyfrannu atynt, tra bydd yna ffocws ar gynnwys ceiswyr lloches i’w cefnogi i ddysgu am y dref lle maent wedi eu lleoli.
Dywedodd Lydia Meehan: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis fel y trydydd artist Wal Pawb. Rwy’n gyffrous iawn i ymateb i’r syniadau a adlewyrchwyd yn Tŷ Pawb drwy fy ngwaith.”
Dywedodd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb ac Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae byrddau posteri Wal Pawb yn gonglfaen ar gyfer Tŷ Pawb. Mae’r gwaith celf a gweithgareddau ymgysylltu cysylltiol yn cynrychioli cymaint o ffasedau o’n cenhadaeth ac mae cynnig Lydia yn adlewyrchu hyn. Rydym yn falch o gael Lydia yn gweithio gyda ni i ddatblygu’r trydydd comisiwn.”