Yn ddiweddar, dathlodd y cwmni iechyd a diogelwch Atrium 25 mlynedd o fod wrth galon busnes hyfforddi Iechyd a Diogelwch – gyda 18 o’r blynyddoedd hynny wedi’u lleoli yn Nhŵr Rhydfudr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.
Ar ôl sefydlu ym 1998 maent wedi tyfu i gynnwys Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.
Maent yn cyflogi gweithwyr proffesiynol Iechyd a Diogelwch arbenigol gyda’r nod o gynnig canllawiau sy’n diwallu anghenion nifer o fusnesau gan gynnwys Iechyd Galwedigaethol, Cymorth Cyntaf, Diogelwch Tân, Iechyd a Diogelwch a Chodi a Symud.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Roedd yn bleser ymweld a dathlu gyda nhw ar eu pen-blwydd.
“Mae Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes llwyddiannus er mwyn sicrhau diogelwch eu gweithlu, ac mae’r hyfforddiant y mae Atrium yn ei ddarparu heb ei ail. Mae nifer o gwmnïau yn y rhanbarth wedi elwa o’u cyrsiau a’u cyngor ac rwy’n siŵr y byddent yn parhau i fod yn llwyddiannus yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Andrew Steele, Rheolwr Gyfarwyddwr Atrium, “Mae wedi bod yn bleser gwasanaethu ein cymuned leol dros y 25 mlynedd ddiwethaf trwy ddarparu gwasanaethau proffesiynol i wella darpariaeth Iechyd a Diogelwch ac mae Atrium yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu ei wasanaethau i’r un safonau uchel yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Atrium yn ei gynnig, ewch i’w gwefan neu gallwch anfon e-bost atynt drwy office@atrium-uk.com
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD