Oes gennych chi Awtistiaeth neu a ydych chi’n gofalu am rywun sy’n Awtistig? Cymerwch olwg ar ein tudalen we i weld beth sy’n digwydd yn Wrecsam a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi:
Mae gennym Gydlynydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn dynodedig, sy’n cynnal sesiwn galw heibio yn yr Hwb Lles bob bore Mercher. Galwch heibio i gael sgwrs am Awtistiaeth a rhannu eich safbwyntiau neu bryderon gyda rhywun cyfeillgar, sy’n barod i wrando.
Erbyn hyn, mae yna dri modiwl E-ddysgu byr, rhad ac am ddim ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru. Po fwyaf o bobl sydd ag ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, y mwyaf o ddealltwriaeth fydd gan bobl a bydd hynny o fudd i bawb.
Gallwn hefyd gynnig sesiynau Ymwybyddiaeth byr ar gyfer unrhyw dimau/ busnesau lleol yn yr ardal sy’n dymuno dod yn Ymwybodol o Awtistiaeth. Anfonwch e-bost at y tîm Mannau Diogel os oes gennych chi ddiddordeb yn un ohonynt.
Beth yw Awtistiaeth?
Mae awtistiaeth yn anhwylder niwrolegol a datblygiadol sy’n cael effaith ar sut mae pobl yn rhyngweithio ag eraill, yn cyfathrebu, dysgu ac ymddwyn. Er bod modd cael diagnosis ar unrhyw oedran, caiff ei ddisgrifio fel “anhwylder datblygiadol” gan fod symptomau’n ymddangos yn ystod dwy flynedd gyntaf eich bywyd, yn gyffredinol.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn chwilio am wneuthurwyr! Pobl greadigol – mae arnom ni eich angen chi!