Ydych chi’n mwynhau stori dditectif neu ddrama?
Os felly, mae’n debyg y bydd gennych ddiddordeb yn ein digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam fel rhan o Wythnos y Llyfrgelloedd, sy’n rhedeg o ddydd Llun, 8 Hydref i ddydd Sadwrn, 13 Hydref.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Clare Mackintosh
Bydd yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Clare Mackintosh yn dod i Lyfrgell Wrecsam am 7pm ddydd Iau, 11 Hydref i drafod ei llyfr diweddaraf Lie To Me.
Roedd ei nofel gyntaf, y ddrama seicolegol, I Let You Go, yn un o’r deg uchaf ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times am 12 wythnos, a’r nofel a werthodd gyflymaf gan awdur nofelau trosedd newydd yn 2015. Ers hynny, mae wedi gwerthu mwy na miliwn o gopïau ledled y byd.
Yn ogystal â hynny, cafodd y nofel ei dewis ar gyfer y ‘Richard and Judy Book Club’ a chlwb ‘Loose Books’ rhaglen Loose Women ITV.
Enillodd Clare y profiad yr oedd ei angen i ysgrifennu ei nofelau dros ddeuddeng mlynedd yn yr heddlu, gan gynnwys amser yn CID, ac fel cadlywydd trefn gyhoeddus.
Gadawodd yr heddlu yn 2011 i weithio fel newyddiadurwr llawrydd ac ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol, ac mae hi rŵan yn ysgrifennu yn llawn amser.
Pris tocynnau yw £5 yr un ac maent ar gael yn Llyfrgell Wrecsam, ar-lein neu ar wefan Cyngor Wrecsam.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION