Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân?
ArallY cyngor

Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 27, 2018 3:06 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân?
RHANNU

Rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch Drysau Tân Tân ac yn galw ar holl landlordiaid Wrecsam i wirio’r drysau tân ar eu heiddo, gan sicrhau fod eu tenantiaid yn eu defnyddio’n gywir. Rydym hefyd yn annog landlordiaid i ymgymryd â’u hasesiadau risg tân eu hunain ar eu heiddo gan ddefnyddio canllawiau a thempled sydd wedi ei ddarparu i ni gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cynnwys
  • “Mae drysau tân yn achub bywydau”
  • “Gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw”

Yn ystod Wythnos Diogelwch Drysau Tân, byddwn yn gweithio i sicrhau fod landlordiaid a perchnogion adeiladau fel ei gilydd yn sicrhau nad ydynt yn rhoi bywydau eu tenantiaid mewn perygl trwy fod â drysau tân sydd wedi eu gosod yn wael, nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth, neu nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir.

“Mae drysau tân yn achub bywydau”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae drysau tân yn achub bywydau, a dylai landlordiaid a’u tenantiaid fod yn ymwybodol o sut i wneud yn siŵr eu bod wedi eu gosod yn gywir ac hefyd eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir gan denantiaid. Mae asesiad risg defnyddio i’w gael ar-lein ac rwy’n annog landlordiaid i gymryd mantais ohono yn ystod yr wythnos bwysig hon.”

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Os ydych yn landlord ac yn dymuno cynnal asesiad risg tân ar eich eiddo, gallwch lawrlwytho gwybodaeth ddefnyddiol yma:

Mae rhestr wirio 5 cam ar gyfer Drysau Diogelwch Tân hefyd ar gael. Dyma adnodd sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac y gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un, boed mewn gweithle, cartref neu mewn unrhyw le lle ceir drysau diogelwch tân. GWIRIAD 5 CAM.

“Gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw”

Dywedodd Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau: “Mae Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth tuag at leihau tannau a gwella diogelwch mewn anheddau rhent ar draws y sir. Mae’n hanfodol fod landlordiaid yn ymgymryd ag asesiadau risgiau tân ar eu safleoedd er mwyn helpu i sicrhau diogelwch eu tenantiaid. Rydym yn argymell yn gryf fod landlordiaid yn archwilio eu drysau tân yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da ac yn gweithredu fel y dylent, tra’n bod yn atgoffa tenantiaid i sôn wrth eu landlord am unrhyw ddiffygion. Gallai drws tân sydd wedi ei osod, ei gynnal a’i gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwiriwch a golchwch a gofalwch am y gweddillion – 2 gyngor ailgylchu syml ar gyfer gwell Wrecsam Gwiriwch a golchwch a gofalwch am y gweddillion – 2 gyngor ailgylchu syml ar gyfer gwell Wrecsam
Erthygl nesaf library Awdur nofelau ditectif poblogaidd yn dod i ddathlu Wythnos y Llyfrgelloedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English