Yr Awr Ddaear yw’r foment pan fo miliynau yn dod ynghyd ar gyfer natur, pobl a’r blaned, a gofynnwn i breswylwyr yma yn Wrecsam i ymuno i gefnogi’r digwyddiad gwych hwn ar 27 Mawrth, 2021.
Yng ngoleuni’r pandemig COVID-19, mae tîm trefnu byd-eang yr Awr Ddaear yn argymell pob unigolyn i gymryd rhan ar-lein / yn ddigidol ble’n bosib. Os ydych yn bwriadu bod mewn lle cyhoeddus neu’n ystyried treulio’r awr gyda ffrindiau a theulu y tu allan i’ch cartref, dilynwch y canllawiau, cofiwch wisgo mwgwd, a chadw pellter cymdeithasol.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dros y blynyddoedd, bu’r foment draddodiadol o ddiffodd y goleuadau yn gweld strydoedd cyfan, adeiladau, tirnodau a gorwelion dinasoedd yn tywyllu – golygfa na ddylid ei cholli a oedd yn tynnu sylw cyhoeddus at natur a’r argyfwng hinsawdd.
Beth am fynd yn ddigidol eleni
Eleni – ymysg yr amgylchiadau byd-eang cyfredol – yn ogystal â diffodd eich goleuadau, rydym hefyd yn eich gwahodd i godi ymwybyddiaeth a chreu’r un olygfa ar-lein, er mwyn i’r byd weld ein planed, y problemau a wynebwn, a’n lle o’i fewn, mewn goleuni newydd.
Sut? Mae’n syml. Ar noson yr Awr Ddaear (27 Mawrth), byddant yn postio fideo ar eu holl dudalennau cyfryngau cymdeithasol – a’r oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw ei rannu.
Rhannwch ar eich Storïau neu ar eich wal, ei ail-drydar, ei anfon ar neges DM, tagio ffrindiau yn y sylwadau – chi sydd â’r dewis!
Mae’r nod yn syml: rhoi’r canolbwynt ar ein planed a sicrhau bod y fideo yr un sy’n cael ei gwylio fwyaf yn y byd (neu’r tu hwnt!) ar 27 Mawrth er mwyn i gymaint o bobl â phosib glywed ein neges.
Gallwch hefyd fod yn rhan o DNA y symudiad Awr Ddaear trwy ddiffodd eich goleuadau am awr ar ddydd Sadwrn, 27 Mawrth am 8.30 pm.
Gallwch ei rannu ar Twitter, Facebook neu Instagram – neu’r tri os dymunwch – Instagram / Facebook / Twitter i gael clywed y diweddaraf!
Mae’r tîm hefyd wedi rhoi rhestr o 20+ o bethau y gallwch eu gwneud i gael profiad cofiadwy (a phleserus) o’ch cartref!
CANFOD Y FFEITHIAU