Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Band o Eryri yn perfformio yng Nghanada fel rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Band o Eryri yn perfformio yng Nghanada fel rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO
ArallPobl a lle

Band o Eryri yn perfformio yng Nghanada fel rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO

Diweddarwyd diwethaf: 2019/10/16 at 3:18 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Band o Eryri yn perfformio yng Nghanada fel rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO
RHANNU

Mae FOCUS Wales wedi bod yn gweithio gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO yn ystod gŵyl BreakOut West yn Yukon, Canada.

BreakOut West ydy prif ddigwyddiad arddangos y diwydiant cerddoriaeth, yn cael ei chynnal gan Western Canadian Music Alliance. Yn denu cynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth o bedwar ban byd, pob blwyddyn mae’r digwyddiad cyffrous hwn yn cael ei gynnal mewn rhanbarth gwahanol yng Ngorllewin Canada yn eu tro. Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yn Whitehorse, Yukon rhwng Hydref 2ail-6ed, 2019. Gwahoddwyd y bandiau o Gymru, Worldcub a Baby Brave, i berfformio yn BreakOut West eleni.

Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO’, trefnodd FOCUS Wales a BreakOut West daith i’r band Worldcub o Eryri i gyfarfod â cherddorion a ffigyrau amlwg yng nghymuned Carcross/Tagish First Nation yn Yukon am gyfarfyddiad arbennig i ddathlu iaith a cherddoriaeth.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Dyma’r hyn oedd gan Dion o Worldcub i ddweud am y profiad:

“Wedi siwrne ben bore trwy eira trwm a chael cip ar eirth brithion, fe’n croesawyd â gweddi gan yr Henadur Geraldine James wrth gyrraedd Carcross, gyda Seremoni Darthu yn dilyn. Gan sefyll mewn cylch, gwahoddwyd paw bi gyflwyno’u hunain. Soniodd yr Henadur am eu brwydr i achub eu treftadaeth a’u hiaith rhag difodiant. Fe gaethon ni gyfle i sôn am hanes yr iaith Gymraeg ac fe sylwodd bawb ar y cymariaethau.

“Roedd hi’n fraint i rannu’r llwyfan i berfformio caneuon a rhannu straeon am ein hieithoedd gyda’r llwyth. Gwych oedd gweld pa mor angerddol o ymroddedig oedden nhw dros y frwydr am eu treftadaeth a’u hiaith. Mae gwerth cannoedd o flynyddoedd o hanes ynghlwm â’r ieithoedd hyn sydd angen eu perchnogi ac maen nhw’n dibynnu ar hyn am eu bodolaeth – dylid eu clywed mewn tafarndai, caffis ac ar y strydoedd. Fe ddysgon ni gryn dipyn o’r diwrnod ac mae llond troll o straeon ganddo ni i’w hadrodd nôl adre.

“Roedden ni mor ffodus i gael ymweld â’r Ganolfan Addysgu yn Carcross, dysgu am hanes y bobl yn y gymuned ac ymuno yn eu traddodiadau – mae ein diolch yn fawr i FOCUS Wales a BreakOut West am drefnu hyn a’n cludo yno… ac yn ôl, yn fyw!”

Roedd y daith hon yn rhan o gyfres o gyfleoedd arddangos rhyngwladol a gyflwynir gan FOCUS Wales mewn partneriaeth â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Am fwy o wybodaeth am waith FOCUS Wales yn ryngwladol, ewch i http://www.focuswales.com/rhyngwladol/. Rhoddir cefnogaeth tuag at ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO mewn partneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae gŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales yn cael ei chynnal rhwng Mai 7fed – 9fed, 2020. Mae

If we get a bad settlement, we’ll have to look at further cuts.Have your say.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/survey/977″] HAVE YOUR SAY [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwnewch yn siŵr bod eich teiars yn barod ar gyfer y gaeaf Gwnewch yn siŵr bod eich teiars yn barod ar gyfer y gaeaf
Erthygl nesaf Cafwyd Llwyddiant! Ciwiau yng Nghyfnewidfa Ddillad Fisol Gyntaf Cymru a Wrecsam Cafwyd Llwyddiant! Ciwiau yng Nghyfnewidfa Ddillad Fisol Gyntaf Cymru a Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English