Ar ôl llwyddiant Wrecsam yn 2003 yn ennill Aur yn y Gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau mae’r tîm nawr yn paratoi ar gyfer 2024. Rydym nid yn unig yn cystadlu yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau ond rydym hefyd wedi ein gwahodd i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau yn erbyn Llundain a Dundee.
Eleni bydd y daith yn galw mewn sawl lleoliad a gerddi gan gynnwys Amlosgfa Wrecsam, Canolfan Ailgylchu Wrecsam, Gardd Furiog Erlas, Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Chanol Dinas Wrecsam.
Y darn mwyaf o’r ddwy gystadleuaeth yw ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn gofyn i drigolion a grwpiau cymunedol ar y llwybr am eu cymorth gyda hyn. Y llynedd roedd grwpiau yn codi sbwriel, cystadlaethau garddio, plannu ardaloedd a basgedi crog i wella eu hardal.
Nod y cystadlaethau yw gwneud Wrecsam yn ecogyfeillgar trwy ddileu graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a hyrwyddo plannu cynaliadwy ac arddangosfeydd blodau i wneud Wrecsam yn le harddach i fyw ac ymweld.
Cyfleoedd i fusnesau noddi Cymru yn ei Blodau
Rydym bob amser yn ceisio canfod ffyrdd o helpu i gefnogi ymgyrchoedd ac un ffordd yw trwy ein cyfleoedd i fusnesau noddi planwyr. Bydd bob noddwr yn cael eu henw ar blannwr am flwyddyn a byddant yn cael eu cydnabod mewn cyhoeddusrwydd Cymru yn ei Blodau sy’n gyfle hysbysebu gwych i’ch busnes yn ogystal â gwella’r amgylchedd yn Wrecsam.
Rydym hefyd eisiau cynnwys busnesau lleol a thafarndai, felly rydym yn cynnal cystadleuaeth flodau am ddim i holl siopau, sefydliadau a thafarndai canol y ddinas o fewn y fwrdeistref. O blanwyr blodau hardd i fasgedi crog unigryw, mae croeso i bopeth yn y gystadleuaeth. Bydd hyn yn helpu i greu dathliad o liw a chreadigrwydd o fewn canol y dref, gyda phawb sy’n cystadlu yn cael tystysgrif neu wobr.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn cynnal digwyddiadau gwahanol megis rhoi hadau am ddim, llwybrau plant o amgylch Canol y Ddinas, diwrnodau i wirfoddolwyr, rhoi compost am ddim a llawer mwy. Edrychwch ar dudalen Facebook y Cyngor am fwy o wybodaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Roedd y fwrdeistref sirol yn edrych yn wych o ran lliw y llynedd a bu i fusnesau a chymunedau helpu i gyflawni hynny trwy fod yn frwdfrydig a chreadigol gyda’u harddangosfeydd.
“Rydym eisiau ailadrodd ein llwyddiant eleni ac rydym yn annog pawb i gymryd rhan sut bynnag y gallant.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Bydd ein staff Amgylchedd yn brysur unwaith eto eleni i wneud ein mannau agored yn rhywle i bawb fod yn falch ohonynt ac i fwynhau treulio amser ynddynt.
“Mae cymaint o ffyrdd y gallwn i gyd gymryd rhan o godi sbwriel i osod basgedi crog i wneud i’n cymunedau edrych a theimlo’n groesawgar ac yn lliwgar.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag Ymgyrch Prydain yn ei Blodau a Chymru yn ei Blodau neu mewn noddi cylchfan neu blannwr cysylltwch â Nicola Ellis ar 01978 729638 neu e-bost nicola.ellis@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day