Yn ôl ym mis Chwefror, dangosodd Ysgol Heulfan, Gwersyllt i arolygwyr ysgolion, Estyn sut maent yn addusgu ac yn gofalu am eu disgyblion – ac roedd Estyn wedi eu barnu’n ardderchog.
Nid yw’n hawdd cael statws ardderchog. Mae’n golygu bod yr ysgol yn dangos perfformiad ac ymarfer cadarn, cynaliadwy ac yn edrych ar bum maes gwahanol sy’n cynnwys safonau; lles ac agwedd at ddysgu; profiadau dysgu ac addysgu; cefnogaeth ac arweiniad gofal; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.
A sgoriodd Ysgol Heulfan yn ardderchog mewn pedwar o’r pump maes hwn!
“Arweinyddiaeth ysbrydoledig”
Dywedodd Arolygwyr: “Mae Ysgol Heulfan yn ysgol hynod ofalgar a chynhwysol. Mae’r pennaeth a’r uwch arweinwyr yn hynod effeithiol ac yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig … mae’r lefelau uchel o ofal, cefnogaeth ac arweiniad a ddarperir gan staff yn yr ysgol yn anhygoel. O ganlyniad, mae disgyblion yn ffynnu ac yn teimlo’n ddiogel ac wedi eu gwerthfawrogi.”
“Cynnydd cadarnhao”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rwyf mor falch o glywed fod staff a disgyblion yn cyflawni yn Ysgol Heulfan ac rwy’n eu llongyfarch am eu statws “ardderchog”, mae pob un ohonynt yn gyfrifol am sicrhau bod eu hysgol wedi derbyn y canlyniad hwn.
“Mae darllen bod bron pob disgybl wedi gwneud cynnydd cadarn beth bynnag fo’r sgiliau ganddynt yn dechrau’r ysgol yn galonogol iawn ac rwy’n arbennig o hapus bod yr uned ag adnoddau arbennig, y Canol, hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion wneud cynnydd mor gadarnhaol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yn www.estyn.gov.wales
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI