Os ydych chi wedi byw neu wedi treulio llawer o amser yn Wrecsam, mae’n debyg eich bod wedi clywed ambell chwedl ar hyd y ffordd….
Roeddem yn dymuno ymchwilio i rai o’r ‘chwedlau’ hyn i weld a oedd unrhyw wybodaeth ffeithiol y tu ôl iddynt.
Felly, gyda hyn mewn golwg aethom draw i ystafell chwilio’r archifau yn Amgueddfa Wrecsam i weld beth gallem ddod o hyd iddo (mae’n lle gwych i ymweld ag ef – gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan)…
Twnnelau dan ddaear
Y peth cyntaf wnaethom edrych i mewn iddo oedd yna unrhyw wirionedd i’r ‘twnnelau dan ddaear’ o dan canol tref Wrecsam.
Mae tystiolaeth i awgrymu bodolaeth y twneli, yn arbennig o gwmpas Farchnad y Cigyddion a’r Stryd Fawr. Maint y twneli a sut y maent yn eu cysylltu gyda’i gilydd (os o gwbl) yw’r dirgelwch fwyaf.
Yn ôl llên gwerin, mae’r twnnelau hyn yn dechrau rhywle o dan Eglwys Plwyf Wrecsam ac yn rhedeg o dan canol y dref. Bu cryn drafodaeth ynglŷn â pham yn union y cawsant eu hadeiladu – ychydig o reswm sydd yna ynglŷn â pham y byddent yn bodoli ac yn anffodus ychydig o dystiolaeth ysgrifenedig sydd yna i awgrymu hynny.
Gwnaethom edrych mewn hanner dwsin o lyfrau hanes lleol heb lawer o lwyddiant. Efallai bod hwn yn rywbeth i edrych arno rywbryd eto? 🙂
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Fodd bynnag, yn ein hymchwil daethom ar draws chwedl ddiddorol am ogof sy’n dechrau yn y fynedfa i Gastell y Waun. Wel, rydym yn dweud ogof….. mae’r ffynhonnell yn ei ddisgrifio fel ogof, mwynglawdd a chatacwm mewn tair brawddeg. Felly cewch ddewis! Beth bynnag, dyma’r chwedl….
Cafodd yr ogof ei ddefnyddio gan lowyr Rhufeinig ac mae’n rhedeg yr holl ffordd i’r de o Groesoswallt. Mae ganddo enw sinistr iawn hefyd.
Os byddech o fewn pum cam i’w fynedfa, dywedir y byddech yn cael eich tynnu i mewn a gallech fynd ar goll yn y catacwm am byth.
Enghraifft o hyn yw ffidlwr o’r enw Iolo ap Huw, wnaeth geisio chwalu’r chwedl un Calan Gaeaf drwy gerdded hyd y beddau tra’n chwarae’r ffidil…. ni welwyd ef yn fyw byth eto!
Chwedl arall yw llwynog yn cael ei hela gan gŵn hela yn cyfarth ac aeth i mewn i’r ogof i geisio dianc rhag yr ysglyfaethwyr.
Aeth y llwynog i mewn o’r ogof, ond saethodd allan yn sydyn iawn, fel petai wedi gweld ysbryd a rhedodd yn syth i ganol y cŵn hela …. ond yn hytrach na rhwygo’r llwynog, gadawodd y cŵn hela iddo gan bod arogl cryf brwmstan arno.
Fodd bynnag, cewch chi benderfynu a ydych yn credu’r chwedlau hyn 😉
Elizabeth y ddol
Os ydych wedi mynd ar hyd yr A525, ffordd Rhuthun i Wrecsam erioed, mae’n bosibl eich bod wedi sylwi ar fwthyn mawr gothig.
Mae’r bwthyn yng Nghoedpoeth yn hen efail lle byddai’r gof yn pedoli ceffylau tra byddai’r marchogion yn ymweld â’r dafarn drws nesaf.
Wel, am dros 30 o flynyddoedd roedd dol o’r enw Elizabeth yn eistedd yn ffenestr y bwthyn. Roedd perchennog y bwthyn wedi prynu Elizabeth i’w merch ym 1958 ac roedd y ddol yn atyniad mawr i dwristiaid am nifer o flynyddoedd.
Byddai rhai pobl yn dweud mai hi oedd ateb Coedpoeth i Chucky y ddol, ond byddai eraill yn teimlo bod ei breichiau agored yn ffordd o ddweud “Croeso i Gymru”.
Yn fuan roedd gan Elizabeth ddilynwyr a gyda’i thedi bêr, dechreuodd dderbyn cardiau post a llythyrau gan deuluoedd oedd wedi eu gweld wrth yrru heibio. Heddiw, byddai ganddi ffrwd Twitter.
Cafodd Elizabeth ei chyflwyno i Amgueddfa Wrecsam yn 2009. Ers hynny mae wedi bod mewn arddangosfa ac wedi ymddangos ar-lein.
Yr ystafell chwilio
Dyma rai o’r nifer o chwedlau o amgylch Wrecsam… os oes unrhyw un o’r rhain wedi denu eich diddordeb a hoffech wybod mwy, ewch draw i Amgueddfa Wrecsam.
Cawsom amser gwych yn chwilio drwy gyfran fechan iawn o’r llyfrau hanes lleol sydd ar gael. Mae Jonathon Gammond, Swyddog Dehongli a Mynediad yn Amgueddfa Wrecsam yn rhoi cipolwg ar beth arall sydd ar gael:
“Mae yna lawer mwy o lyfrau ac erthyglau am hanes yr ardal. Mae colofn wythnosol Silin yn y Wrexham Leader, a ysgrifennwyd yn y 1980au a’r 1990au yn amlygu straeon a digwyddiadau sy’n aml yn angof, wedi eu casglu o’r archifau neu mewn sgwrs gyda’r bobl leol.
“O’r fan honno gallwch fynd hyd yn oed ymhellach drwy ddefnyddio hen bapurau newydd. Os ydych o ddifrif, yna mae’r erthyglau yn Nhrafodion Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych yn drysor cuddiedig o straeon cywir am orffennol Wrecsam. Mae’r ffynonellau hyn i gyd ar gael am ddim yn yr ystafell chwiliad ar ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener bob wythnos.”
Felly dyna ni! Mae’r staff cyfeillgar yn yr ystafell chwilio yn fwy na hapus i helpu …. fel man cychwyn defnyddiwch Curious Clwyd – Llyfrau 1 a 2.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU