Os ydych yn edrych am ffyrdd i annog eich plentyn i ddarllen yn ystod yr wythnosau nesaf, mae gan Booktrust Cymru ffordd wych i’ch helpu.
Y mis hwn, lansiodd Booktrust ‘Hometime’ lle gallwch ddod o hyd i ffyrdd i ddifyrru plant adref, drwy rannu llyfrau, straeon, rhigymau gan hoff awduron, darlunwyr a storïwyr.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ar BookTrust Cymru HomeTime mae yna ddarlleniadau o lyfrau wedi eu ffilmio, sesiynau rhigwm a chân, llyfrau lluniau rhyngweithiol a llawer mwy. Mae awduron, darlunwyr a storïwyr ar draws Cymru yn cyfrannu eu gwaith i helpu plant a theuluoedd tra mae ysgolion ynghau a bywyd bob dydd wedi’i gyfyngu.
Lansiwyd y safle gydag awdur Llawryfog Plant Cymru, Eloise Williams, yn darllen ei llyfr Elen’s Island pennod fesul pennod; straeon traddodiadol gan y storïwr Michael Harvey; sesiynau ‘sut i dynnu llun’ gan y darlunydd Huw Aaron; ac Elin Meek yn darllen ei haddasiad Cymraeg o Billy and the Minpins gan Roald Dahl.
Gallwch hefyd ddod o hyd i restrau o weithgareddau rheolaidd ar-lein, gan gynnwys amser rhigwm a sesiynau amser stori gan lyfrgelloedd lleol, llunio heriau gan awduron a gwybodaeth ynglŷn â ble i gael syniadau gwych ar-lein i fwynhau llyfrau, straeon a rhigymau.
Arhoswch ar ben popeth sydd yn mynd ymlaen ar y safle drwy ddilyn #BookTrustHomeTime ac #AmserGartrefBookTrust ar y cyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19