Gwahoddir trigolion Parc Borras a Rhosnesi, gyda phlant a fydd yn mynychu neu sydd yn mynychu Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras, ac unrhyw un a hoffai fynychu’r Ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyn ymgeisio a gynhelir ar hyn o bryd.
Mae’r cynigion ar gyfer yr ysgol yn cynnwys adnewyddu ac adeiladu estyniad i adeilad iau Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras er mwyn lletya’r cyfrwng Saesneg, ac adnewyddu’r adran fabanod i greu ysgol gynradd Gymraeg newydd.
Pwrpas yr ymgynghoriad yw codi ymwybyddiaeth o’r datblygiad o fewn y gymuned, ymgysylltu â budd-ddeiliaid lleol a rhoi cyfle iddynt adolygu’r cynlluniau a’r dogfennau cysylltiol er mwyn iddynt roi eu barn ar y cynigion cyn i’r cais cynllunio ffurfiol gael ei gyflwyno i Gyngor Wrecsam.
Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn cael ei gynnal am 28 diwrnod, ac ar ôl ei gwblhau bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried a gallent ffurfio rhan o’r cynlluniau ffurfiol ar gyfer y safle. Yna bydd hyn yn destun ymgynghoriad arall drwy gais cynllunio llawn.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN