Er bod nifer o adeiladau’r llyfrgell ar gau ar draws y fwrdeistref sirol, mae sawl un ohonoch yn cymryd mantais o’r e-lyfrau a’r llyfrau sain y gallwch eu defnyddio gyda’ch cerdyn llyfrgell.
Yn wir, mae’r nifer o bobl sy’n benthyg ‘rhain wedi cynyddu 63% ar gyfartaledd ar draws y DU!
Mae e-lyfrau a llyfrau sain ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc – cymerwch gip ar y rhai mwyaf poblogaidd yn Wrecsam i gael ychydig o ysbrydoliaeth!
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Llyfrau sain mwyaf poblogaidd Wrecsam yw:
Oedolion: Date with Death gan Julia Chapman
Plant: Harry Potter and the Philisopher’s Stone gan J. K. Rowling
Pobl Ifanc: Counting by 7s gan Holly Goldberg Sloan
E-lyfrau mwyaf poblogaidd Wrecsam yw:
Oedolion: Tell me a Lie gan CJ Carver
Plant: Eagle Strike gan Anthony Horowitz
Pobl Ifanc: Stepsister gan Jennifer Donnelly
Mae e-lyfrau o’r llyfrgell yn ffordd wych i ymgolli mewn llyfr newydd pan nad ydych yn gallu pori drwy silffoedd y llyfrgell yn bersonol, tra bo llyfrau sain yn gydymaith ardderchog pan rydych yn gwneud eich ymarfer corff dyddiol. Mae’r ddau am ddim, yn hawdd i’w lawrlwytho ac yn cael eu dychwelyd yn awtomatig os nad ydych yn eu hadnewyddu, felly nid oes angen i chi boeni am ddirwyon.
Canfyddwch ragor am lyfrau sain drwy ddarllen Peidiwch â barnu llyfr sain yn ôl ei glawr
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19