Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau lleol yn rhoi sêl bendith ar ddigwyddiad Cymorth i Fusnesau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Busnesau lleol yn rhoi sêl bendith ar ddigwyddiad Cymorth i Fusnesau
Busnes ac addysgY cyngor

Busnesau lleol yn rhoi sêl bendith ar ddigwyddiad Cymorth i Fusnesau

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 5, 2021 12:36 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Business
RHANNU

Mae’n gyfnod anodd dros ben i fusnesau ar hyn o bryd ond yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus (ar-lein wrth gwrs!) a fydd, gobeithio, yn newid lwc busnesau yn y flwyddyn newydd.

Ddechrau mis Rhagfyr cynhaliwyd digwyddiad Cymorth i Fusnesau, a bu i 10 busnes lleol gofrestru i dderbyn cyngor arbenigol ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys benthyciadau o hyd at £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru a all gwrdd â chostau cychwyn busnes neu helpu cwmnïau i ehangu.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Wedi’i drefnu gan Fanc Datblygu Cymru, Tîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Wrecsam a’r Canolbwynt Menter, derbyniodd y cyfranogwyr ystod o gyngor arbenigol am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw – o ddatblygu cynlluniau busnes a chyllid i gymryd y camau nesaf.

Meddai Alex Baines, Adain Benthyciadau Micro Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn braf cwrdd â chymaint o bobl gyda syniadau ac anghenion busnes gwahanol. Roedd gan y rhan fwyaf syniad da am yr hyn yr oedd arnyn nhw eisiau ei wneud, ac roedd yn bleser clywed ganddyn nhw a’u cynghori ar y camau nesaf – a dw i’n edrych ymlaen at weld eu cynnydd.”

“Chwa o awyr iach”

Meddai Craig Swire, HelpMeRent.co.uk: “Mae bod yn berchennog busnes bach yn gallu bod yn brofiad unig ar y gorau, heb sôn am y flwyddyn anodd rydym ni wedi’i phrofi. Roedd siarad efo tri wyneb cyfeillgar, sy’n cefnogi busnesau bach i ffynnu, yn chwa o awyr iach. Os ydych chi’n berchen ar fusnes bach yn ardal Wrecsam yna dw i’n argymell yn gryf eich bod chi’n siarad efo’r tîm Cymorth i Fusnesau.”

Bu i Terry Samuels, @solocodeuk, anfon neges ar ôl y digwyddiad: “Diolch i chi am dreulio amser yn siarad efo fi ddoe, roedd yn braf siarad efo chi i gyd. Roeddwn i wedi gwirioni ar eich sylwadau cadarnhaol am fy musnes a’m cynlluniau a dw i’n edrych ymlaen at weithio efo chi a Busnes Cymru yn y dyfodol agos.”

“Paratoi’r ffordd i entrepreneuriaid”

Meddai Pete Rogers, Rheolwr Cymunedol Canolbwynt Menter Wrecsam: “Roedd yn bleser gennym gefnogi’r digwyddiad i helpu busnesau amrywiol dderbyn gwybodaeth am gyllid a fydd yn paratoi’r ffordd i entrepreneuriaid gyfrannu at ailddatblygu ardal Wrecsam.”

Meddai Claire Hinchcliffe, a helpodd i drefnu’r digwyddiad: “Yn ogystal â darparu cefnogaeth roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ni dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol gan fusnesau, er enghraifft roedd gan un busnes eiddo ar gael ar gyfer unedau busnes bach, rhywbeth y mae llawer o bobl yn ein holi ni amdano.”

Mae mwy o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn newydd ac fe gewch wybod am y rheiny gyda hyn.

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Cymorth i Fusnesau ar 01978 667000 neu business@wrexham.gov.uk.

Meddai’r Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i gynnal y digwyddiad yma a dw i’n falch iawn bod yna oleuni ym mhen draw’r twnnel i lawer o fusnesau. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau yn gryf a chyda chyngor priodol a chymorth ariannol mi fyddan nhw’n ffynnu ac yn barod i adeiladu ar eu gwaith caled yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Business Drop In

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Tree Recycle Sut i Ailgylchu eich Coeden Nadolig os oes gennych un go iawn
Erthygl nesaf Census 2021 Bydd Cyfrifiad 2021 yn rhoi ciplun o gymdeithas fodern

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English