Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dylanwadwyr Ifanc yn gadael argraff wrth helpu pobl ifanc ddigartref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dylanwadwyr Ifanc yn gadael argraff wrth helpu pobl ifanc ddigartref
Pobl a lleArall

Dylanwadwyr Ifanc yn gadael argraff wrth helpu pobl ifanc ddigartref

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 25, 2024 3:14 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Young Influencers
RHANNU

Erthygl wadd:  Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)

Cynnwys
  • Diolch anferthol i’r Dylanwadwyr Ifanc
  • Gwybodaeth am y Dylanwadwyr Ifanc

Ym mis Rhagfyr roedd Dylanwadwyr Ifanc AVOW (fel rhan o’r Cynllun Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid Llywodraeth Cymru, ac wedi’i weinyddu gan CGGC) wedi derbyn cais gan Siop Wybodaeth Wrecsam am grant bychan (£75) i’w galluogi nhw i roi bocsys fferins i bobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn llety dros dro.  Edrychodd y Dylanwadwyr Ifanc ar y grant gan sylweddoli fod y pŵer yn eu dwylo nhw i wneud mwy – a dyna wnaethon nhw.

“Yn syml doedd o ddim yn ddigon” mewn Fionn McCabe am y grant bychan a wnaethpwyd cais amdano.

Ym mis Rhagfyr fe roddodd y Dylanwadwyr Ifanc grant o £500 i’r Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc gyda £500 arall tuag at fagiau argyfwng.

Mae’r Cynllun Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yn gynllun grant lle mae pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed (y Dylanwadwyr Ifanc) yn gwneud penderfyniadau go iawn ar sut i wario’r arian.

Diolch anferthol i’r Dylanwadwyr Ifanc

Dros y misoedd canlynol cynhaliwyd trafodaethau ar beth i’w cynnwys yn y bagiau argyfwng gyda’r Dylanwadwyr Ifanc eu hunain yn cymryd rhan yn y trafodaethau.  Ar 21 Gorffennaf dyma Isabelle Prince, cynrychiolydd o’r Dylanwadwyr Ifanc a staff AVOW yn ymweld â staff y Siop Wybodaeth gyda phethau i’w rhoi yn y bagiau argyfwng a bydd staff y Siop Wybodaeth yn gallu eu dosbarthu ar gyfer y rheiny sydd wir eu hangen.

Mae’r rhain yn bethau ymarferol fel diaroglyddion ac eitemau ymolchi, bwyd parod, siocled poeth, hetiau, blancedi a thalebau Greggs. Mae pecynnau batri hefyd er mwyn gallu gwefru ffôn.  Mae pobl ifanc angen mynediad i’r we i allu gwneud cais am lety, lwfans ceisio gwaith, a budd-daliadau eraill sydd ond ar gael ar-lein. Mae’r talebau Greggs yn sicrhau eu bod nhw o leiaf yn gallu cael rhywbeth cynnes i’w fwyta.

“Diolch anferthol i’r Dylanwadwyr Ifanc Mae’r effaith y bydd y bagiau hyn yn ei gael ar y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn anferthol” meddai Lucy Easton, Cydlynydd Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc ar gyfer y Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc. “Mae cymaint o bobl sy’n dod i’r llety dros dro yn dod yno’n waglaw, efallai gyda dim ond y dillad sydd amdanyn nhw felly mi fydd y bagiau hyn yn help mawr.”

“Mae’n fraint cael helpu” meddai Katherine Prince, Rheolwr Datblygu ar gyfer Gwirfoddoli, Cymunedau a Chyllid yn AVOW.  “Mae’r dylanwadwyr ifanc yn gwerthfawrogi pob dim yr ydym yn ei wneud.”

Wrth roi’r hyn y bydd pobl ifanc o bosib eu hangen at ei gilydd mae’r Dylanwadwyr Ifanc wedi ychwanegu bwyd sych sydyn hefyd yn ogystal â bag i gario’r cyfan.

Mae’r pecynnau hyn yn sicrhau fod pobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref gydag ychydig o hanfodion i’w helpu yn ystod cyfnod o argyfwng yn eu bywydau.

Gwybodaeth am y Dylanwadwyr Ifanc

Mae Dylanwadwyr Ifanc AVOW yn grŵp o bobl rhwng 15 a 25 oed sy’n rhan o banel grant sy’n gwneud penderfyniad ar grantiau a arweinir gan ieuenctid. Mae’r bobl ifanc hyn yn gwneud penderfyniadau cyllido go iawn ar gyfer y grantiau hyn. 

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Tree Cities Dyfarnu statws Dinas Goed y Byd i Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol!
Erthygl nesaf Deadpool & Wolverine gan Marvel Studios yn Blodeuo yn Wrecsam mewn cywaith â Country Living Deadpool & Wolverine gan Marvel Studios yn Blodeuo yn Wrecsam mewn cywaith â Country Living

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English